Abertawe yn colli yn Southampton
- Cyhoeddwyd

Dyw Abertawe heb allu efelychu eu lwc yn Ewrop yn eu gemau yn y gynghrair
Mae'r Elyrch wedi colli yn erbyn Southampton yn St Mary's diolch i goliau gan Adam Lallana a Jay Rodriguez.
Bydd y ffaith fod y tîm cartref ar dân ac yn cael eu hunain ym mhedwar uchaf Uwch Gynghrair Lloegr ddim cysur i Abertawe, sy'n 14eg yn y tabl.
Fe gafodd y tîm o Gymru fwy o feddiant ac ergydion na'u gwrthwynebwyr, ond doedd rhywbeth ddim yn tycio.
Arbediodd golwr Southampton Artur Boruc yn wych wrth i Michu ddod yn agos, a daeth Dyer yn agosach fyth wrth daro'r postyn yn fuan wedyn.
Chwaraeodd Abertawe'n dda am gyfnodau yn ystod yr ail hanner ond waeth beth oedden nhw'n wneud, doedden nhw ddim yn gallu darganfod cefn y rhwyd.