Cyfarwyddwr newydd i Ganolfan y Celfyddydau Aberystwyth

  • Cyhoeddwyd
Gareth Lloyd Roberts
Disgrifiad o’r llun,
Bydd Gareth Lloyd Roberts yn dechrau ei swydd ar Dachwedd 11

Mae Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth wedi penodi cyfarwyddwr fydd yn dechrau ei swydd fis nesa'.

Bydd Gareth Lloyd Roberts yn symud o'i swydd fel cynhyrchydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru ym Mae Caerdydd ble bu'n gweithio ers 2004.

Mae Louise Amery wedi bod yn arwain y ganolfan yn Aberystwyth dros dro yn sgil ymddeoliad y cyn gyfarwyddwr Alan Hewson.

Daw Mr Roberts yn wreiddiol o Abertawe ac astudiodd yn Ysgol Gyfun Gŵyr cyn graddio mewn Theatr, Cerdd a'r Cyfryngau yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin.

Bu hefyd yn astudio yn Central College, Pella, Iowa.

Cyn ymuno â Chanolfan Mileniwm Cymru, bu'n gweithio fel cyfarwyddwr, awdur sgript ac ymchwilydd ar gyfer cynhyrchwyr teledu Cymraeg a hefyd fel actor.

Ym Medi 2010 roedd ar secondiad i Theatr Sadlers Wells yn Llundain am bedwar mis fel Rheolwr Contract Artistig.

Ar hyn o bryd mae'n rhan o'r tîm sy'n cynhyrchu cyngerdd agoriadol WOMEX 2013, Gŵyl Gerddoriaeth y Byd, fydd yn agor yng Nghaerdydd ar Hydref 23.

'Arloesol a dynamig'

Dywedodd: "Rwyf wrth fy modd ac mae'n anrhydedd ymuno â thîm Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac rwy'n edrych ymlaen at gydweithio er mwyn creu a datblygu gwaith newydd, arloesol a deinamig i gyd-fynd gyda'r rhaglen greadigol helaeth a deniadol sy'n bodoli yno.

"Rwyf yn frwdfrydig ac yn angerddol dros y celfyddydau ac rwy'n gobeithio dod â'r egni i'r rôl, yn ogystal â sicrhau bod cynulleidfaoedd a'r gymuned yn ganolog i bopeth a wnawn."

Croesawodd Yr Athro April McMahon, Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth, y penodiad.

"Rwyf wrth fy modd bod y brifysgol wedi gallu penodi unigolyn ardderchog i arwain Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

"Mae gan Gareth gyfoeth o brofiad, gwybodaeth ac egni ac rwy'n hyderus y bydd yn gallu arwain Canolfan y Celfyddydau yn llwyddiannus gyda Bwrdd Ymgynghorol y Ganolfan er budd ein cymunedau lleol a byd-eang, gan gynnwys ein cymuned o fyfyrwyr a staff."

Croesawyd y penodiad hefyd gan David Alston, Cyfarwyddwr y Celfyddydau gyda Chyngor Celfyddydau Cymru.

"Mae gan y ganolfan rôl ddeinamig yn y rhanbarth, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol. Mae Cyngor y Celfyddydau am barhau i gefnogi a chynorthwyo i ddatblygu'r potensial hwn," meddai.

Protestiadau

Ers Awst 1 mae'r ganolfan yn Aberystwyth wedi bod yn rhan o'r Athrofa Llenyddiaeth, Ieithoedd a Chelfyddydau Creadigol.

Mae rhai wedi mynegi pryder y gallai gwasgedd ariannol mewn adrannau eraill beryglu'r ganolfan ac y byddai'r cyhoedd ar eu colled.

Mae nifer o brotestiadau wedi'u cynnal oherwydd y pryderon, ynghyd ag anfodlonrwydd bod dau o gyn reolwyr y ganolfan wedi'u gwahardd o'u gwaith ar un adeg, gan gynnwys y cyn gyfarwyddwr, Alan Hewson.

Ond mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud bod digon o gyrff allanol sy'n cydweithio gyda nhw a'r bwrdd cynghori celfyddydol.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol