Llys: Ffrwydradau'n "achosi braw" yn nhre' Dinbych
- Cyhoeddwyd

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod cyfres o ffrwydradau wedi achosi braw yn nhre Dinbych, gan achosi i un teulu symud o'r ardal.
Mae cyn faer y dre', John Larsen, 46 oed, wedi gwadu cyhuddiadau o achosi ffrwydradau, cynnau tân yn fwriadol, a meddu ar ffrwydron.
Hefyd mae wedi gwadu cyhuddiad o feddu ar ffrwydron gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Clywodd y llys fod y ffrwydradau wedi bod yn hwyr yn y nos.
Ar un achlysur roedd ffrwydrad o dan Land Rover, gan wasgaru darnau o fetel a pheli metel yn ardal Pwll y Grawys.
Clywodd y llys fod y ffrwydradau rhwng dwywaith a theirgwaith yr wythnos a bod yr ymosodiad ar y Land Rover ym mis Mawrth.
Gwefr
Mae Mr Larsen yn gyn gynghorydd tre ac yn faer yn 1999.
Roedd yr erlyniad wedi honni bod y diffynnydd yn cael gwefr o achosi ffrwydradau ac o'r sylw oedd hyn yn ei gael.
Dywedodd un tyst Shirley Clarke ei bod hi wedi dechrau clywed y ffrwydradau ym mis Ionawr.
"Mi oedd yna andros o sŵn, yn fwy na sŵn tan gwyllt, mi oedd o mwy fel bom," meddai.
Ychwanegodd Mrs Clarke, sy'n nyrs, fod y ffrwydradau'n fwy swnllyd yn yr wythnosau canlynol.
"Mi ges i ddychryn," meddai a dweud iddi ddechrau rhannu ystafell gyda'i mab 14 oed tra bod ei gŵr yn gweithio oddi cartref.
Dywedodd i'w char Audi gael ei ddifrodi ar Fawrth 14 a'r bonet wedi ei losgi.
Chwalu
"Roedd y tân wedi llosgi trwy'r ffenestr," meddai.
Ychydig o ddiwrnodau wedyn, meddai, pan aeth yn ôl i'r tŷ roedd ffenestr y cyntedd wedi ei chwalu.
Ar Fawrth 24, meddai, cafodd ei deffro am 12.30am oherwydd ffrwydrad.
Dywedodd iddi ruthro allan i'r stryd gyda'i gŵr a'i mab.
Roedd ffenestri'r cyntedd wedi eu torri ac roedd pelen metel ar y llawr.
Dywedodd fod ffenestr ei hystafell wely wedi ei thorri ac roedd yna belen metel arall ar y llawr.
Roedd pelen, meddai, wedi taro penfwrdd y gwely.
Syrthio i gysgu
Cytunodd â'r erlyniad mai'r unig reswm pan nad oedd hi yn y gwely ar y pryd oedd iddi syrthio i gysgu ar y soffa lawr grisiau.
Clywodd y llys fod y teulu wedi gwerthu eu tŷ a symud o ardal Pwll y Grawys .
Cafodd Mr Larsen ei arestio ger ei gartref ym Mhwll y Grawys ar Ebrill 19.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi bod yn ymchwilio i ffrwydron ar ei gyfrifiadur a bod ffeiliau penodol yn cyfeirio at ffrwydron ac "arbrofi"
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd7 Hydref 2013