Cyffuriau: Dau fudiad yn uno
- Cyhoeddwyd

Mae dau fudiad sy'n ceisio helpu pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol yn bwriadu uno a chreu un o'r darparwyr therapi mwyaf.
Bydd Stafell Fyw Caerdydd, y ganolfan adferiad gymunedol, yn uno gyda CAIS, yr elusen sy'n helpu pobl sy'n gaeth i gyffuriau ac alcohol yn y gogledd.
Bydd Stafell Fyw Caerdydd, gafodd ei sefydlu yn 20011, yn rhan o elusen CAIS.
Dywedodd Clive Wolfendale, Prif Weithredwr CAIS: "Rydyn ni'n hynod o falch i gyd-weithio gyda Stafell Fyw Caerdydd ...
"Rydyn ni'n rhannu gweledigaeth ac ethos sy'n debyg iawn.
'Egni'
"Yn fwy pwysig fyth, rwy'n credu y gallwn ni gyda'n gilydd ddod ag egni a chreadigrwydd gwirioneddol ..."
Ychwanegodd Wynford Ellis Owen, Prif Weithredwr Stafell Fyw Caerdydd: "Mae'n ddiwrnod cyffrous i ni.
"Mae'n rhoi sylfaen gref i ni symud ymlaen i ddarparu ein harddull torri tir newydd ni o drin adferiad.
"Hefyd drwy gyfuno gyda CAIS gallwn gydweithio, gyda'n gorchwylion ein hunain, i fynd i'r afael â'r broblem gynyddol o ddibyniaeth am y tro cyntaf ar draws Cymru.
"Mae'r strwythur newydd yn ein galluogi i adeiladu ar ein llwyddiannau dros y blynyddoedd ac yn helpu hyd yn oed fwy o bobl i adfer o ddibyniaeth ac ail-adeiladu bywydau normal a chynhyrchiol, yn y gred fod pobl yn gallu ac yn llwyddo i newid."