Gwahardd dynes o Wynedd rhag gwneud galwadau 999

  • Cyhoeddwyd

Mae llys wedi cyhoeddi gorchymyn sy'n gwahardd dynes o Wynedd rhag gwneud galwadau 999 oni bai bod argyfwng go iawn.

Clywodd Ynadon Dolgellau fod Gwen Mitchelmore, 54 oed o Faentwrog, wedi galw'r gwasanaethau brys bum gwaith ar Awst 23.

Plediodd yn euog i gyhuddiad o achosi anghyfleustra neu bryder diangen.

Clywodd y llys ei bod wedi gwneud galwadau o'r fath o'r blaen.

Dywedodd yr erlynydd Robert Blakemore fod yr heddlu wedi galw yn ei chartre'.

"Roedd y diffynnydd yn gweiddi ar y plismyn y tu allan i'w chartref ac yn y diwedd cafodd ei harestio ac aed â hi i Orsaf Heddlu Dolgellau.

Bygwth

Clywodd y llys fod y ddynes wedi bygwth swyddogion oedd yn ateb galwadau 999.

Dywedodd Andrew Moodie ar ran yr amddiffyn fod marwolaeth deuluol yn ffactor.

"Dywedodd wrthyf mai ar ôl iddi wneud yr alwad gyntaf penderfynodd nad oedd am i'r heddlu ddod i'w chartref.

"Pwrpas y galwadau eraill oedd ceisio perswadio'r heddlu i beidio â galw."

Mae gorchymyn y llys yn dweud na ddylai'r ddynes ddefnyddio'r gwasanaeth 999 am 12 mis oni bai bod argyfwng gwirioneddol.

Bydd rhaid iddi wneud 40 awr o waith di-dâl yn y gymuned.

Bu'n rhaid iddi dalu costau o £85 ac iawndal o £60 i ddioddefwr.