Crawley 2-3 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Clwb Pêl-droed CasnewyddFfynhonnell y llun, Other

Crawley 2-3 Casnewydd

Fe ddangosodd Casnewydd gymeriad wrth ennill eu gêm yn ail rownd Tlws y Gynghrair Bêl-droed yn erbyn Crawley nos Fawrth.

Cafodd tîm Justin Edinburgh ddechreuad ofnadwy i'r gêm, ac fe aeth y tîm cartref ar y blaen wedi 13 munud gyda gôl Emile Sinclair.

Aeth yr un yn ddwy wedi 23 munud pan rwydodd Michael Jones ail i Crawley, ond yna ddau funud cyn yr egwyl daeth llygedyn o obaith i'r ymwelwyr pan sgoriodd Chris Zebrowski i gau'r bwlch.

O fewn tri munud i ddechrau'r ail hanner fe gafodd Casnewydd gic o'r smotyn, ac fe fanteisiodd Adam Chapman i'w gwneud hi'n gyfartal.

Yna yn dilyn cyfnod o bwyso fe roddodd amddiffynwr Crawley Connor Essam y bêl i'w rwyd ei hun wedi 61 munud i roi Casnewydd ar y blaen am y tro cyntaf yn y gêm.

Fe gadwodd yr Alltudion eu gafael i sicrhau eu lle yn y rownd nesaf.