Mudiad iaith yn beirniadu'r gyllideb
- Cyhoeddwyd

Mae Cymdeithas yr Iaith wedi beirniadu Llywodraeth Cymru yn dilyn cyhoeddi'r gyllideb ddrafft ddydd Mawrth.
Yn ôl y Gymdeithas, bydd y gwariant ar yr iaith Gymraeg yn y gyllideb yn cwympo o £25,076,000 eleni i £24,376,000 yn 2014-15, gan gwympo ymhellach i £23,511,000 yn 2015-16.
Dywedodd Robin Farrar, Cadeirydd Cymdeithas yr Iaith Gymraeg:
"Mae'r toriadau hyn nid yn unig yn gwbl annerbyniol, ond yn mynd yn gwbl groes i'r hyn mae pob plaid wedi dweud wrthym ers canlyniadau'r Cyfrifiad - sef bod angen rhagor o fuddsoddiad er mwyn sicrhau twf yn y Gymraeg.
"O ystyried yr argyfwng a ddaeth yn amlwg drwy ganlyniadau'r Cyfrifiad, mae'r toriadau yma yn mynd i'r gwrthwyneb i'r hyn sydd ei angen: dylid cynyddu'r buddsoddiad yn y Gymraeg ar draws holl adrannau'r Llywodraeth."
Dywedodd y mudiad hefyd ei fod yn synnu'n fod Carwyn Jones "heb gyhoeddi asesiad effaith iaith y gyllideb fel addawyd ganddo ym mis Chwefror eleni mewn cyfarfod â swyddogion" y mudiad iaith.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er bod ein hymrwymiad i'r iaith Gymraeg yn parhau, ni allwn ddiogelu pob gwasanaeth o effaith toriadau Llywodraeth y DU a'r goblygiadau o flaenoriaethu gwariant.
"Mae pob un o'r penderfyniadau sy'n ein hwynebu yn anodd. Nid oes unrhyw atebion hawdd."
Straeon perthnasol
- 8 Hydref 2013
- 5 Hydref 2013
- 5 Hydref 2013
- 17 Mehefin 2013