Damwain yn cau ffordd
- Cyhoeddwyd
Mae'r A40 rhwng Llanwrda a Llangadog yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i fod ar gau ar ôl i lori fynd ar dân.
Cafodd diffoddwyr eu hanfon o Landeilo, Rhydaman a'r Tymbl am 10.15am.
Roedd y lori yn cludo bwyd i anifeiliaid.
Dywedodd yr heddlu fod traffig trwm rhwng yr A482 (Llanwrda) a'r A4069 (Llangadog).
Mae traffig yn cael ei ddargyfeirio yn yr ardal.