Gwahardd pennath recriwtio Clwb Pêl-droed Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi gwahardd eu pennaeth recriwitio, Iain Moody a phenodi Alisher Apsalyamov o Kazakhstan i'r swydd yn ei le.
Roedd Moody yn rhan o dîm Malky Mackay yn Watford, lle bu'n swyddog y wasg cyn symud gyda'r Albanwr i Gaerdydd yn 2011.
Yn ei swydd recriwtio gyda'r Adar Gleision, mae Moody wedi helpu i ddenu chwaraewyr fel Gary Medel a Steven Caulker i'r clwb.
Mae Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi gwrthod gwneud sylw.
Pennaeth Recriwtio
Mae gwefan y clwb yn dweud bod Moody wedi dechrau ei yrfa fel cyfieithydd i'r Eidal yn ystod Pencampwriaeth Ewropeaidd 1996.
Aeth ymlaen i weithio ar wefan pêl-droed Football365.com yn 1999, cyn symud i asiantaeth rheolaeth chwaraeon yn 2001.
Ddeng mlynedd yn ddiweddarach ymunodd a Watford fel swyddog y wasg cyn dod yn rheolwr gweithrediadau pêl-droed i Malky Mackay.
Pan symudodd Mackay i Gaerdydd, aeth a Moody gydag ef i fod yn bennaeth recriwtio.
Nid yw'r rheswm dros waharddiad Moody yn glir ar hyn o bryd.
'Pryder'
Dywedodd gohebydd pêl-droed BBC Cymru, Rob Phillips: "Mae Iain Moody wedi bod yn ddylanwad arwyddocaol iawn yng Nghaerdydd.
"Mae Malky Mackay yn gwbl ffyddiog yn Moody, a ddaeth gydag ef o Watford.
"Ef yw'r dyn mae Mackay wedi ymddiried ynddo i ddelio gyda throsglwyddiadau, gan gynnwys dau chwaraewr pwysig; Steven Caulker o Spurs, a Gary Medel o Sevilla.
"Y pryder i gefnogwyr Caerdydd yw a fydd hyn yn ansefydlogi Mackay wedi dechrau da i'r tymor. Mae Mackay wedi hyrwyddo tegwch o fewn y tîm a bydd y rhain yn ddatblygiadau pryderus."
Roedd Moody hefyd yn rhan o'r ymgyrch llwyddiannus i arwyddo Kevin Theophile-Catherine ac Andreas Cornelius dros yr haf, a Fraizer Campbell, Jordon Mutch a Kim Bo-Kyung cyn hynny.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Awst 2013
- Cyhoeddwyd31 Gorffennaf 2013
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2011