Pleidlais yn erbyn llyn dadleuol Bwlchyllan
- Cyhoeddwyd

Mae ymgais ddiweddaraf ffermwr i gael caniatâd cynllunio wedi methu.
Cafodd llyn Bwlchyllan a'i arglawdd eu hadeiladu gan John Rogers ger Llanbedr-Pont-Steffan yn 1991 ond heb ganiatâd Cyngor Ceredigion.
Roedd y cyngor wedi mynnu bod y tir yn cael ei adfer ac roedd Mr Rogers wedi ei ddirwyo am anwybyddu'r gorchymyn.
Penderfynodd cynghorwyr ddydd Mercher nad oedd y llyn yn rhan o'r dirwedd ac mae gorchymyn i gael gwared ar y llyn wedi ei gyhoeddi.
Pleidleisiodd 16 o gynghorwyr yn erbyn cymeradwyo'r llyn, gydag un yn pleidleisio o blaid, ac un yn ymatal.
Roedd nifer o gynghorwyr yn teimlo na ddylai'r llyn gael ei gymeradwyo wedi iddo gael ei wrthod yn 1991.
Gwrthod
Mae'r llyn wedi ei adeiladu ar lethr ac mae'n 180 metr o hyd ac yn 80 metr o led.
Cafodd cais am ganiatâd cynllunio ôl-weithredol ei wrthod ym mis Ionawr oherwydd nad oedd y ffermwr yn gallu dangos bod y llyn yn ddiogel.
Cyn cyfarfod dydd Mercher roedd cynllunwyr wedi argymell cymeradwyo'r llyn oherwydd ei fod yn rhan o'r dirwedd.
Yn ôl adroddiad a gyflwynwyd i'r cyngor: "Mae'r llyn wedi bod mewn bodolaeth ers 1991 - cyfnod o dros 20 mlynedd - boed hynny'n iawn neu beidio.
'Datblygu'n naturiol'
"O ganlyniad mae'r safle wedi cael cyfle i ddatblygu'n naturiol ac felly mae wedi ei amgylchynu gan blanhigion naturiol ar hyd y lan gydag ynys fechan yng nghanol y llyn.
"Mae'r corlannau wedi eu gorchuddio â phlanhigion aeddfed."
Dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod am ymchwilio a yw llygod y dŵr, rhywogaeth wedi'i diogelu, yn byw ar y safle.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Hydref 2013