Dedfrydu cyfreithiwr am ddwyn £200,000 gan gleientiaid
- Cyhoeddwyd

Mae cyfreithiwr wedi ei garcharu am ddwyn dros £200,000 gan gleientiaid, gan gynnwys un oedd wedi cael iawndal wedi iddo ddioddef niwed i'w ymennydd.
Clywodd Llys y Goron Abertawe bod Gareth Arnold, 40, o Gaerdydd, wedi gwario'r arian ar "ffordd o fyw moethus" i greu argraff ar ei gariad.
Roedd Arnold, oedd yn gweithio i gwmni AM Law yng Nghaerdydd wedi cyfaddef pum achos o dwyll.
Dywedodd y barnwr bod Arnold wedi ymddwyn yn "sinigaidd ac yn ddidostur", a cafodd ei ddedfrydu i bedair blynedd yn y carchar.
'Gwneud argraff'
Clywodd y llys bod Arnold wedi dwyn £204,202 gan gleientiaid, a'i fod wedi gwario'r arian ar geir moethus a llawdriniaeth gosmetig i'w gariad.
Roedd wedi dwyn £174,000 gan Robert McCloy, oedd wedi cael £300,000 o iawndal wedi anaf sylweddol i'w ymennydd.
Dywedodd y barnwr Paul Thomas: "Roedd ffydd ynddo ti i edrych ar ôl yr arian yna, i sicrhau buddiannau Mr McCloy.
"Ond fe wnest ti benderfynu y byddai'r arian yna yn well yn cael ei wario ar geir drud a bywyd moethus i greu argraff ar dy gariad."
Roedd Arnold hefyd wedi twyllo £30,000 gan werthu tŷ yn Llundain ar gyfer cleient arall.
"Y rheswm, yn syml, oedd barusrwydd," meddai'r barnwr.
Effaith emosiynol
Yn wreiddiol roedd Arnold yn bartner yng nghwmni ei dad, Arnolds Solicitors yn Abertawe.
Gadawodd i sefydlu cwmni ei hun, lle bu'n delio gydag achos Mr McCloy.
Dywedodd y barnwr bod gweithred Arnold wedi cael cryn effaith emosiynol ar y dioddefwyr.
"Yn yr achos yma, mae'r gost ariannol yn sylweddol, ond mae'r gost ddynol yn enfawr."
Dywedodd yr amddiffyniad bod Arnold wedi colli cysylltiad gyda'i deulu oherwydd yr achos, a bod ei yrfa broffesiynol wedi ei ddifetha.