Technoleg arloesol i ymchwilio i glefyd

  • Cyhoeddwyd
Technoleg crydcymalau
Disgrifiad o’r llun,
Mae synwyryddion is-goch ar goesau'r claf yn cael eu defnyddio i greu darlun rhithwir o batrwm y cerddediad

Mae labordy rhith-wirionedd (virtual reality), y cynta' o'i bath yn y Deyrnas Unedig, wedi agor ym Mhrifysgol Caerdydd ar gyfer ymchwilio i grydcymalau.

Y bwriad yw datblygu ffyrdd newydd o drin y cyflwr, sy'n effeithio ar gannoedd o filoedd yng Nghymru.

Mae'r labordy'n cynnwys offer ymarfer corff, camerâu arbennig, sgrin sinema a nifer o gyfrifiaduron sy'n cofnodi a phrosesu'r wybodaeth.

Cafodd ei hysbrydoli gan y fath o dechnoleg sy'n cael ei ddefnyddio mewn ffilmiau i greu effeithiau arbennig.

Ar hyn o bryd, mae ymchwilwyr yn astudio grŵp o gleifion sydd ag anafiadau i'w cluniau.

Mae synwyryddion is-goch yn cael eu gosod ar goesau a breichiau'r cleifion cyn iddyn nhw gymryd rhan mewn ymarferion corff.

Wrth iddyn nhw symud, mae'r ymchwilwyr yn medru creu darlun digidol o'r ffordd y mae eu cymalau'n gweithio ar y cyfrifiaduron.

Mae'r gwaith ymchwil yn cael ei ddefnyddio i helpu datblygu ffyrdd newydd o atal dirywiad cymalau a lleddfu poen.

O ganlyniad i'r labordy newydd, mae Cymru bellach "ar y blaen" wrth ymchwilio i grydcymalau, yn ôl Dr Paulien Roos o Ganolfan Biofecanyddol a Biobeirianneg Prifysgol Caerdydd:

"Mae'n declyn arbennig sy' wir yn ein helpu ni symud ein gwaith ymchwil yn ei flaen."

"Fel arfer fe fydde hi'n cymryd dyddie os nad blynyddoedd i wneud y mesuriadau y mae'r labordy yma'n ein galluogi ni i'w gwneud. Nawr, rydyn ni'n gallu casglu gwybodaeth yn syth."

Disgrifiad o’r llun,
Mae ymchwilwyr yn monitro bob cam yn y labordy newydd

"Gallwn ni ddweud wrth gleifion yn uniongyrchol sut i wella'r ffordd y maen nhw'n symud er mwyn atal problemau gyda'u cymalau yn y dyfodol."

Mae Liz Evans o Gasnewydd yn un o'r cleifion sy'n cymryd rhan yn y prosiect. Fe anafodd hi ei phen-glin yn ddifrifol wrth sgïo.

"Fe ddywedodd y meddygon wrtha'i y byddwn i'n debygol iawn o ddatblygu crydcymalau yn y dyfodol. Dwi'n awyddus iawn i wneud beth bynnag y galla i i helpu'r ymchwilwyr i ganfod mwy am achosion crydcymalau a ffyrdd o'i atal rhag datblygu.

"Mae'r teclyn wedi fy helpu i ddeall mecanwaith fy anaf i ond mae e hefyd yn hwyl i'w ddefnyddio.

"Dwi'n credu bod 'na gyfoeth o wybodaeth y gall yr ymchwilwyr ei gael drwy fesur cymalau cleifion a deall yn well sut mae'r corff yn symud.

"Mae cael y fath dechnoleg yma yng Nghaerdydd yn anhygoel."

Mae elusen Arthritis Research UK yn cefnogi'r prosiect drwy dalu am un o'r ymchwilwyr.

Yn ôl eu rheolwr yn Ne a Chanolbarth Cymru, Anna-Marie Jones, fe allai'r labordy newydd arwain at ddatblygiadau cyffrous:

"Mae un ym mhob chwe pherson yn y Deyrnas Unedig wedi'u heffeithio gan grydcymalau. Mae'n gyflwr sy'n effeithio'r hen a'r ifanc. Mae 'na 15,000 o blant yn y Deyrnas Unedig sydd â chrydcymalau."

"Wrth ariannu prosiectau fel yr un yma fe fyddwn ni'n sicr yn dod yn agosach at driniaethau fydd yn gwella crydcymalau yn llwyr."