Llys: 'Sŵn yn debyg i ynnau mawr' yn nhre' Dinbych
- Cyhoeddwyd

Mae cymydog dyn ar gyhuddiad o achosi ffrwydradau wedi dweud wrth Lys y Goron Caernarfon fod y sŵn fel gynnau mawr ar faes y gad.
Gwadodd cyn faer Dinbych, John Larsen, 46 oed, gyhuddiadau o achosi ffrwydradau, cynnau tân yn fwriadol, a meddu ar ffrwydron.
Hefyd mae wedi gwadu cyhuddiad o feddu ar ffrwydron gyda'r bwriad o beryglu bywyd.
Dywedodd Trevor Jones: "Roedden nhw'n mynd yn uwch ac yn uwch ..."
"Mi oedd y ffenestri'n ysgwyd a'r wraig yn colli llawer o gwsg.
"Pan oedd mwy o sŵn mi oedd cymylau o fwg."
Dywedodd ei fod yn poeni am y ffrwydradau.
Gwefr
Roedd Mr Larsen yn gynghorydd tre ac yn faer yn 1999.
Mae'r erlyniad wedi honni bod y diffynnydd yn cael gwefr o achosi ffrwydradau ac o'r sylw oedd hyn yn ei gael.
Cafodd ei arestio ger ei gartref ym Mhwll y Grawys ar Ebrill 19.
Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi bod yn ymchwilio i ffrwydron ar ei gyfrifiadur a bod ffeiliau penodol yn cyfeirio at ffrwydron ac "arbrofi".
Mae'r achos yn parhau.
Straeon perthnasol
- 7 Hydref 2013