Cynghorwyr yn erbyn newidiadau yn Ysbyty Tywysog Philip

  • Cyhoeddwyd
Caerfyrddin
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y cyfarfod yn Neuadd y Sir, Caerfyrddin

Mae cynghorwyr Sir Gâr wedi pasio cynnig sy'n gresynu at y penderfyniad i israddio uned damweiniau Ysbyty Tywysog Philip yn Llanelli.

Ym Medi penderfynwyd y byddai'r gwasanaeth yn cael ei arwain gan nyrsys ac yn cael ei gefnogi gan feddygon teulu.

Yr hen drefn oedd gwasanaeth yn cael ei arwain gan feddygon yn yr ysbyty.

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y penderfyniad wedi ei selio ar argymhellion arbenigwyr a bod y newidiadau wedi cael ei gwneud ar mwyn gwella gwasanaethau yn yr ysbyty.

'Yn ddiogel'

Yn y cyfarfod ddydd Mercher dywedodd rhai cynghorwyr eu bod yn poeni y byddai'r newid yn Ysbyty Tywysog Philip yn golygu mwy o bwysau ar Ysbytai Glangwili a Threforys a'r Gwasanaeth Ambiwlans.

Roedd cynnig Plaid Cymru o blaid diffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford.

Ond pasiwyd gwelliant Llafur o blaid lobïo Bae Caerdydd a galw am wrthdroi'r penderfyniad.

Dywedodd arweinydd y cyngor, y Cynghorydd Kevin Madge: "Fe fyddwn yn dal i bwyso ar weinidogion.

"Yn y pen draw, rhaid sicrhau bod y gwasanaeth yn ddiogel."

Ym Medi penderfynodd panel, a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i ddatrys anghydfod rhwng Bwrdd Iechyd Hywel Dda a'r Cyngor Iechyd Cymuned, gefnogi cynllun y bwrdd iechyd.

Bu sawl protest gan bobl yn ardal Llanelli yn erbyn y newidiadau.

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Fe wnaeth y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford gefnogi argymhellion grŵp annibynnol o arbenigwyr clinigol i weithredu newidiadau i wella gwasanaethau yn Ysbyty Tywysog Philip.

"Cafodd penderfyniad y panel ei ddylanwadu gan eu barn ynglŷn â'r ffordd orau i gynnal gofal o safon uchel i bobl leol. Byddai'n anghywir i'r gweinidog iechyd i gwestiynu penderfyniadau ac argymhellion grŵp o weithwyr iechyd mor uchel eu parch.

"Mae'n werth cofio bod adran achosion brys yr ysbyty wedi gweld 33,000 o gleifion yn 2011-12, ac o'r rhain roedd 6,000 yn achosion mawr, gyda 422 yn gorfod cael eu symud i ysbyty arall.

"Cafodd yr 80% arall eu trin yn yr ysbyty ac mae penderfyniad y gweinidog iechyd yn golygu na fydd hyn yn newid yn y dyfodol."