Cam-drin: Gweinidog yn cefnogi ymgyrch

  • Cyhoeddwyd
Huw Lewis
Disgrifiad o’r llun,
Dywedodd Huw Lewis ei bod yn hanfodol bod plant yn cael eu clywed

Mae'r Gweinidog Addysg Huw Lewis wedi rhoi ei gefnogaeth i ymgyrch i atal cam-drin plant yng Nghymru cyn iddo ddigwydd.

Roedd Mr Lewis yn siarad yn y Senedd nos Fercher wrth i elusen ChildLine hybu eu gwasanaeth i ysgolion.

Rhaglen gan yr NSPCC yw ChildLine i Ysgolion, ac fe fydd gwirfoddolwyr yn ymweld ag ysgolion cynradd ar draws Cymru er mwyn cynorthwyo plant i adnabod cam-drin ymhob ffurf a sut y gallan nhw gadw'n ddiogel a hapus.

Dywedodd rheolwr y gwasanaeth yng Nghymru, Shaun Friel: "Mae adnabod cam-drin a'i atal wedi bod yn nod i ChildLine ers y dechrau - fe ddechreuon ni ar y ffôn wedyn ar-lein, a nawr rydym yn mynd at blant yng nghynefin eu hysgolion eu hunain.

"Mae ymchwil NSPCC yn dangos bod dau blentyn ymhob dosbarth ar gyfartaledd wedi diodde' cam-drin neu esgeulustod o ryw fath gyda mwyafrif yr achosion ddim wedi cael eu hadrodd.

"Mae mwyafrif y plant sy'n cysylltu â ChildLine dros 11 oed, ond mae llawer wedi diodde'n ddistaw am fisoedd neu flynyddoedd cyn cael y dewrder i ffonio.

"Os ydym o ddifri am atal cam-drin plant, rwy'n credu bod rhaid i ni gyrraedd y plant yma pan maen nhw'n iau."

Dywedodd Huw Lewis: "Ni ddylai cam-drin o unrhyw fath gael ei ddiodde'.

"Mae'n hanfodol bod pobl ifanc Cymru yn medru siarad a chael eu clywed. Gyda chymorth gwasanaeth ysgolion ChildLine fe fydd gan blant fynediad at wasanaethau fydd yn eu cynorthwyo i ddeall cam-drin a'r warchodaeth sydd ar gael; i gael yr hyder i siarad, ac yn bwysicach i fod yn ymwybodol o bwy sy'n barod i wrando."

Mae gwasanaeth ysgolion ChildLine eisoes wedi ymweld â 15,000 o blant mewn 270 o ysgolion ar draws Cymru.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol