'Gallai Mackay adael Caerdydd'

  • Cyhoeddwyd
Malky mackayFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Mae Caerdydd wedi gwadu eu bod wedi gofyn i Malky Mackay ymddiswyddo

Mae cyn chwaraewyr a rheolwyr wedi dweud bod posibilrwydd y bydd Malky Mackay yn gadael Caerdydd yn sgil diswyddiad un o'i dim rheoli.

Mae cyn ymosodwr Caerdydd a Chymru, Nathan Blake wedi damcaniaethu os yw'r newid yn ymgais gan y clwb i ddisodli'r rheolwr, tra bod cyn-reolwr Lloegr, Graham Taylor, yn dweud bod posibilrwydd y bydd y rheolwr yn gadael y swydd.

Daw'r sylwadau wedi i glwb pêl-droed Caerdydd wahardd eu pennaeth recriwtio, Iain Moody, o'i waith a phenodi Alisher Apsalyamov, dyn 23 oed dibrofiad, yn ei le.

Mae'r clwb wedi gwadu eu bod wedi gofyn i Mackay adael, ond nid ydynt wedi gwneud sylw am y penodiad newydd.

Disgrifiad o’r llun,
Mae Nathan Blake yn cwestiynu os yw'r newid yn ymgais gan y clwb i ddisodli Mackay.

'Rhyfedd iawn'

Mae Moody wedi bod yn rhan o dîm rheoli Mackay ers sawl blwyddyn, gan sicrhau nifer o drosglwyddiadau mawr i'r Adar Gleision dros yr haf.

Dywedodd cyn ymosodwr Caerdydd a Chymru Nathan Blake bod y newyddion yn rhyfedd iawn, a dyfalodd os yw'r newid yn ymgais gan y clwb i ddisodli Malky Mackay.

"Nid yn unig y sioc bod Iain Moody wedi ei wahardd, ond y ffaith bod gan y dyn ifanc sydd wedi ei benodi ddim profiad o'r swydd.

"Mae'n codi'r cwestiwn, ydy'r clwb, am p'run bynnag rheswm, yn ceisio cael Malky i neidio, yn hytrach na'i wthio?"

Mae'r clwb yn gwadu eu bod wedi gofyn i'r rheolwr ymddiswyddo, ond nid ydyn nhw wedi gwneud sylw ar y penodiad newydd hyd yn hyn.

Dywedodd Blake ei fod yn anodd gweld Mackay yn parhau yn y clwb am lawer hirach.

"Dwi'n gwybod bod gan Malky ffydd yn Iain Moody, a fo oedd un o'r bobl gyntaf i fi gyfarfod pan ddaeth Malky i'r clwb.

"Mae'n anodd gweld sut all Malky aros yn y clwb os ydyn nhw yn ei danseilio fo fel yma."

'Posibilrwydd'

Roedd Moody yn rhan o dîm rheoli Malky Mackay yn Watford, lle bu'n swyddog y wasg cyn symud gyda'r Albanwr i Gaerdydd yn 2011.

Yn ei swydd recriwtio gyda'r Adar Gleision, mae Moody wedi helpu i ddenu chwaraewyr fel Gary Medel a Steven Caulker i'r clwb.

Mae Graham Taylor, oedd yn gadeirydd yn Watford tra oedd Malky Mackay ac Iain Moody yno, hefyd yn teimlo y gall y penderfyniad arwain at ymddiswyddiad Mackay.

"Galla'i ddim dychmygu ei fod yn hapus gyda'r peth o gwbl," meddai.

"Dwi'n meddwl bod posibilrwydd y bydd Mackay yn gadael.

"Os mai chi yw rheolwr materion pêl-droed... mae'n eich tanseilio. Galla' i ddim credu'r penderfyniad i ddiswyddo Iain. Galla' i jyst ddim credu'r peth."

Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Clwb Pêl-droed Caerdydd wedi dweud bod y newidiadau yn bryder i gefnogwyr.

"Mae 'na bryder y gall newidiadau yn y clwb yrru Malky Mackay i ddwylo clwb arall yn yr Uwch Gynghrair a byddai hynny yn niweidiol iawn i'r Adar Gleision," meddai'r cadeirydd, Tim Hartley.

"Mae Malky yn rheolwr talentog sydd wedi ennill parch y cefnogwyr am yr hyn y mae wedi ei gyflawni.

"Mae'r cefnogwyr yn haeddu cael datganiad clir gan y clwb am beth sy'n mynd ymlaen."