Pallial: Rhyddhau dyn ar fechnïaeth

  • Cyhoeddwyd
Cam-drin plant
Disgrifiad o’r llun,
Mae Ymgyrch Pallial yn edrych ar honiadau hanesyddol o gam-drin mewn cartrefi plant yng ngogledd Cymru

Dywed heddlu sy'n gweithio fel rhan o Ymgyrch Pallial sy'n ymchwilio i honiadau o gam-drin plant mewn cartrefi gofal yn y gogledd bod dyn 52 oed o'r Wyddgrug gafodd ei arestio wedi cael ei rhyddhau ar fechnïaeth.

Cafodd y dyn ei arestio yn St Helens ar Lannau Mersi ddydd Iau ar amheuaeth o droseddau yn erbyn pedwar bachgen ac un ferch rhwng 1981 a 1988 pan oedd y plant yn 13 neu 14 oed.

Cafodd y dyn ei gludo i orsaf heddlu gerllaw a'i holi yno cyn cael ei rhyddhau tan ganol mis Ionawr tra bod yr ymchwiliad yn parhau.

Dyma'r 11eg arestiad mewn perthynas ag Ymgyrch Pallial hyd yma, ac mae un person wedi cael ei gyhuddo o nifer fawr o droseddau o natur rywiol ddifrifol.

Mae Ymgyrch Pallial yn cael ei arwain gan Keith Bristow sydd bellach yn gyfarwyddwr cyffredinol yr Asiantaeth Droseddau Genedlaethol a ddaeth i fodolaeth ar Hydref 7.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol