Cwmni'n cyhoeddi pedair taith newydd o Gaerdydd

Flybe
Image caption Edwina Hart: '... mwy o deithiau'n allweddol i ddyfodol y maes awyr'

Mae cwmni teithiau awyr Flybe wedi cyhoeddi pedair taith newydd o Faes Awyr Caerdydd.

O Ragfyr 21 tan Ebrill 2014 bydd awyrennau'n mynd i dri lle sgïo yn Ffrainc, Chambery, Grenoble a Lyon, ac i Genefa yn y Swistir.

Dywedodd cyfarwyddwr marchnata'r cwmni Simon Lilley: "Gan y bydd cwsmeriaid yn gallu teithio'n uniongyrchol o Gymru fe fyddan nhw'n arbed arian ac amser ..."

Mae Jon Horne, Prif Weithredwr Maes Awyr Caerdydd, wedi dweud: "Mae hyn yn golygu y bydd pobl yn gallu teithio i lefydd sgïo wedi cyfnod o dair blynedd."

Dywedodd y Gweinidog Economi Edwina Hart: "Mae hwn yn newyddion da iawn i'r maes awyr.

"Yn sicr, mae mwy o deithiau'n allweddol i ddyfodol y maes awyr.

"Oherwydd adnewyddu'r maes awyr a gwella'r cysylltiadau trafnidiaeth gyhoeddus, mae'r gwasanaeth i deithwyr yn llawer gwell."