Glo brig East Pit : Cais i Lywodraeth Cymru
- Cyhoeddwyd

Mae pwyllgor cynllunio Cyngor Sir Gaerfyrddin wedi gofyn i Lywodraeth Cymru alw i mewn cais i estyn safle glo brig East Pit.
Roedd adroddiad y prif swyddog cynllunio'n cyfeirio at effeithiau ar bobl leol, hynny yw sŵn a llygredd.
Dywedodd Eifion Bowen: "Roedd gofidiau 'da ni achos bod y gwaith yn symud yn fwy agos at y tai ... y problemau fyddai'r sŵn a'r llwch."
Yn yr adroddiad roedd amheuaeth am godi parc gwledig a gwesty wedi i'r tir gael ei adfer.
"Doedd dim digon o fanylder ... dyw'r cynllun busnes ddim yn ddigon cryf," meddai Mr Bowen.
Mae'r safle o few ffiniau Cyngor Castell-nedd Port Talbot ond ger pentrefi Brynaman, Rhosaman a Chefnbrynbrain.
Dywedodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot: "Rydym wedi derbyn dau gais cynllunio.
"Mae un yn ymwneud â pharhau i gloddio am lo tra bod y llall yn ymwneud â pharhau i gloddio, estyn ardal gloddio, cynllun adfer diwygiedig yn ogystal â strategaeth adfywio.
"Ar hyn o bryd mae'r ddau o dan ystyriaeth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Ionawr 2013
- Cyhoeddwyd26 Mehefin 2012