Llys: 'Gwynt yn debyg i dân gwyllt' yng nghartre' diffynnydd

  • Cyhoeddwyd
Pwll y Grawys, Dinbych
Disgrifiad o’r llun,
Roedd y ffrwydradau yn ardal Pwll y Grawys yn y gwanwyn

Yn achos dyn ar gyhuddiad o achosi ffrwydradau mae ditectif wedi dweud bod gwynt yn ei gartre' yn debyg i dân gwyllt.

Yn Llys y Goron Caernarfon gwadodd cyn faer Dinbych, John Larsen, 46 oed, gyhuddiadau o achosi ffrwydradau, cynnau tân yn fwriadol, a meddu ar ffrwydron.

Hefyd mae wedi gwadu cyhuddiad o feddu ar ffrwydron gyda'r bwriad o beryglu bywyd.

'Dim i'w guddio'

Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Gareth Taylor fod y gwynt yn y car heddlu ar y ffordd i'r orsaf heddlu yn Llanelwy.

Roedd y diffynnydd, meddai, wedi dweud: "Does dim i'w guddio, fe brynais i'r cynhwysion o wefannau hud ..."

Yn y car, meddai, cyfaddefodd Mr Larsen iddo brynu powdwr fflachio ddau ddiwrnod yn gynt.

Clywodd y rheithgor ddatganiad plismon oedd wedi cymryd samplau oddi ar ddwylo'r diffynnydd oedd wedi dweud ei fod yn trefnu sioeau tân gwyllt.

Maer

Roedd Mr Larsen yn gynghorydd tre ac yn faer yn 1999.

Cafodd ei arestio ger ei gartref ym Mhwll y Grawys ar Ebrill 19.

Clywodd y llys fod y diffynnydd wedi bod yn ymchwilio i ffrwydron ar ei gyfrifiadur a bod ffeiliau penodol yn cyfeirio at ffrwydron ac "arbrofi".

Mae'r achos yn parhau.