Carcharu pensiynwr am chwe mis
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 77 oed, oedd wedi ymosod yn rhywiol ar fachgen 13 oed, wedi ei garcharu am chwe mis.
Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug fe gafwyd Reginald Dutton o Gaergwrle, Sir y Fflint, yn euog ym Medi.
Roedd wedi gwadu'r cyhuddiad.
Clywodd y llys fod y dioddefwr, oedd bron yn 40 oed ar y pryd, wedi mynd i gartre'r pensiynwr yn 2011 yn feddw a difrodi car ei wraig.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry fod y ddedfryd yn llai am fod y diffynnydd yn hen ac yn sâl.
Bydd ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd.