Pwll glo: cais i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr

  • Cyhoeddwyd
Unity Mine in CwmgwrachFfynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun,
Mae'r pwll yn cyflogi dros 200 o weithwyr

Mae perchnogion pwll glo mwyaf Cymru wedi gwneud cais i fynd i ddwylo'r gweinyddwyr.

Mae'r pwll yng Ngwmgwrach yng Nghwm Nedd yn cyflogi dros 200 o weithwyr.

Dywedodd Ysgrifennydd Undeb y Glowyr De Cymru, Wayne Thomas: "Ry'n ni'n ofni y bydd llawer o lowyr yn colli eu swyddi."

Bydd y gweithwyr yn cyfarfod ddydd Llun ac mae BBC Cymru'n deall y bydd gweinyddwyr yn cael eu penodi yr wythnos nesa'.

'Dechrau'r broses'

Dywedodd cyfarwyddwr y pwll glo, Richard Nugent, ddydd Iau: "Yn anffodus, mae'r cwmni Unity Group wedi gorfod dechrau'r broses o fynd i ddwylo'r gweinyddwyr tra bod trafodaethau'n parhau ...

"Mae trafodaethau i godi arian yn parhau gydag amryw o grwpiau ac mi fydd y gweithwyr presennol yn parhau i weithio yno ar hyn o bryd."

Dywedodd AS Castell-nedd Peter Hain: "Er bod y datblygiad diweddara'n bryderus iawn, rwy'n deall y bydd trafodaethau'n fuan iawn a bod y rheolwyr yn gobeithio y bydd buddsoddiad digonol ...

"Rwy'n siomedig y methodd trafodaethau i gael cymorth grant ac yn gobeithio y bydd modd iddyn nhw ailddechrau."

Dywedodd fod Unity'n brosiect cyffrous a bod angen i bawb wneud popeth i'w achub.

"Nid dim ond 250 o swyddi sydd yn y fantol ond llawer mwy," meddai.

Mae Gwenda Thomas yr Aelod Cynulliad lleol ar gyfer Castell-nedd wedi dweud bod y cyhoeddiad yn drist.

'Dal i drafod'

"Dwi wir yn gobeithio y bydd y gweinyddwyr yn gallu dod o hyd i berchnogion newydd ar gyfer y pwll glo a bod swyddi'r gweithwyr, gan gynnwys y prentisiaethau, yn gallu parhau.

"Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn dal i drafod gyda rheolwyr y pwll glo."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae'r llywodraeth o hyd yn cydweithio â'r pwll a phobl neu fudiadau eraill er mwyn sicrhau dyfodol tymor hir y pwll ..."