Plaid Cymru â chynllun ar gyfer ysbytai
- Cyhoeddwyd

Mae Arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood wedi dweud y bydd hi'n cynnig "cynllun amgen" i ad-drefnu ysbytai yng nghynhadledd flynyddol ei phlaid ddydd Gwener.
Mae'r blaid Lafur wedi ei chyhuddo hi o wrthwynebu pob newid i wasanaethau iechyd - cyhuddiad y mae Ms Wood yn ei wrthod.
Plaid Cymru sy'n gorffen y tymor cynadleddau gwleidyddol eleni ac maen nhw'n cwrdd ddydd Gwener a dydd Sadwrn yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth.
Mae Ms Wood yn honni bod gan Blaid Cymru gynigion a fyddai'n atal gwasanaethau rhag cael eu canoli, ac y bydd y rhain yn cael eu datgelu yn ei haraith i'r gynhadledd.
Mae hi hefyd yn addo polisïau - fel cwtogi trethi busnes - er mwyn ceisio dangos mai ei phlaid hi yw'r unig un sy'n deall pryderon pobl ynghylch costau byw a'r economi.
'Hwyliau da'
Mae Ms Wood, flwyddyn a hanner ers cael ei hethol i'r swydd, yn dweud bod y blaid mewn hwyliau da yn dilyn buddugoliaeth Rhun ap Iorwerth yn isetholiad Ynys Môn ym mis Awst ac isetholiad Penyrheol yn Sir Caerffili yn gynharach eleni.
Cyn y gynhadledd, dywedodd Ms Wood wrth y BBC mai'r hyn oedd yn allweddol ynglŷn â'r ymgyrch yn Ynys Môn oedd neges gadarnhaol a thîm lleol cryf a'i bod hi'n hyderus wrth geisio lledu eu negeseuon i weddill Cymru.
Bydd Plaid Cymru yn dweud mai "dim ond drwy roi Cymru yn gyntaf y bydd Llywodraeth Cymru yn galluogi'r genedl i gyrraedd ei llawn photensial".
Bydd y blaid hefyd yn lansio'u slogan ar gyfer etholiadau Ewropeaidd 2014 - Cymru'n Gyntaf.
Er mwyn annog aelodau i chwarae rhan fwy yng ngweithgareddau'r blaid bydd cyfle i bob aelod bleidleisio eu hunain yn ystod y gynhadledd - y tro cyntaf i hyn ddigwydd.
Cyfle i arddangos polisïau'r blaid fydd y deuddydd yng Ngheredigion sy'n ymwneud â gwella'r economi, creu swyddi a sicrhau dyfodol da i bobl ifanc.
'Cymru yn gyntaf'
Doedd dewis Aberystwyth fel lleoliad y gynhadledd ddim yn anfwriadol, meddai Ms Wood gan y bydd y blaid yn targedu sedd Ceredigion yn San Steffan, gan obeithio y bydd eu hymgeisydd Mike Parker yn disodli'r Democrat Rhyddfrydol Mark Williams a lwyddodd i sicrhau mwyafrif o 8,324 yn 2010.
Wrth agor y gynhadledd, dywedodd yr aelod cynulliad lleol, Elin Jones, sy'n llefarydd ei phlaid ar iechyd, bod "rhwystrau proffesiynol a sefydliadol sy'n tagu ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol".
Pwysleisiodd yr angen i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol er mwyn rhwystro brwydrau rhwng byrddau iechyd a'r awdurdod lleol ynglŷn â phwy sy'n talu am ofal unigolyn mewn angen.
Dywedodd y bydd Plaid Cymru yn cyflwyno gwelliannau i'r Mesur Gwasanaethau Cymdeithasol yn yr wythnosau nesaf i'w gwneud yn ofynnol i integreiddio gwasanaethau gofal a iechyd a chyd-rannu cyllidebau.