Rhagflas: Cwpan Heineken

  • Cyhoeddwyd
Cwpan Heineken

Mae timau rygbi Cymru'n paratoi i gystadlu yng Nghystadleuaeth Cwpan Heineken am be allai fod y tro olaf.

Er gwaetha'r problemau a'r penawdau negyddol, mae'r gystadleuaeth yn parhau i gael ei hystyried fel un o'r gorau yn y byd ar lefel glybiau.

Y tri chlwb Cymreig sy'n cymryd rhan y flwyddyn hon yw'r Scarlets, y Gweilch a'r Gleision a bydd y rownd derfynol yn cael ei chynnal yn Stadiwm y Mileniwm am y seithfed tro.

Dim ond un waith mae tîm o Gymru wedi cyrraedd y rownd derfynol ac roedd hynny yn ôl yn 1996 pan gollodd Caerdydd yn erbyn Toulouse.

Mae timau o Loegr a Ffrainc yn mynnu na wnân nhw gymryd rhan yn y gystadleuaeth flwyddyn nesaf wrth iddynt fynd ati i geisio dechrau cystadleuaeth newydd.

Gweilch

Disgrifiad o’r llun,
Bydd llawer yn dibynnu ar berfformiadau Adam Jones i'r Gweilch

Er iddynt golli yn erbyn Ulster ddydd Gwener ddiwethaf, mae blaenasgellwr y Gweilch, Cymru a'r Llewod, Justin Tipuric yn optimistaidd am gyfleoedd y tîm yn Ewrop.

Mae chwe aelod o garfan y Llewod fu'n fuddugol yn Awstralia dros yr haf ymysg rhengoedd y Gweilch - a chwe Cymro at hynny - sef Alun Wyn Jones, Ian Evans, Richard Hibbard, Adam Jones, Ryan Jones a Tipuric ei hun.

Ond dydyn nhw ddim yn twyllo eu hunain ynglŷn â maint yr her sy'n eu hwynebu.

Dywedodd Tipuric: "Os ydych chi'n curo eich gemau cartref yna mae'n creu cyfle i gyrraedd y rownd nesaf.

"Mae'r ddwy gêm gyntaf yn rai anferth i ni. Mae ganddyn nhw [Leinster] eu holl chwaraewyr rhyngwladol yn ôl yn ogystal â'r Llewod.

"Maen nhw wedi ennill y gystadleuaeth sawl tro erbyn hyn a does dim byd gwell na brwydro yn erbyn gwrthwynebwyr fel nhw.

"Dyw'n tîm ni ddim yn ddrwg chwaith - ond mae'n mynd i fod yn gêm galed ymhob rhan o'r cae."

Pencampwyr Ffrainc, Castres, a chlwb George North, Northampton, yw'r ddau dîm arall sy'n cwblhau grŵp 1.

Scarlets

Disgrifiad o’r llun,
A fydd Rhys Priestland yn llwyddo i roi'r bwganod y tu ôl iddo?

Mae'r Scarlets hefyd wedi eu rhoi mewn grŵp anodd iawn, ynghyd â Clermont Auvergne, Racing Metro a'r Harlequins.

Bydd llawer yn dibynnu ar chwarae'r maswr Rhys Priestland a'r canolwyr Jonathan Davies a Scott Williams, tra bydd disgwyl i Liam Williams a Jordan Williams sefydlu eu hunain fel chwaraewyr allweddol i'r tîm.

Bydd rhaid i'r tîm wneud heb y capten Rob McCusker a blaenwr Cymru Ken Owens ar gyfer y daith i Lundain i wynebu'r 'Quins ddydd Sadwrn.

Mae'r clwb wedi colli yn erbyn Dreigiau Gwent, Glasgow a Leinster yn barod yn y Pro 12 y tymor hwn.

Dywedodd Priestland: "Does ganddo'n ni ddim byd i'w golli. Mae pawb wedi dweud yn barod bod gennym ni ddim siawns.

"Bydd rhaid i ni fod ar ein gorau ymhob gêm i gael unrhyw bwyntiau oherwydd ein bod ni yn wynebu her anferth.

"Mae'n rhaid i ni ddarganfod ein hunan yn seicolegol gan nad yw'r grŵp wedi llwyddo i wneud hynny eto.

"Does dim amser gwell i droi lan a chwarae'n wych nac yn rownd gyntaf y Cwpan Heineken."

Gleision

Disgrifiad o’r llun,
Does neb yn amau gallu Warburton ond bydd angen rhywbeth arbennig iawn er mwyn i'r Gleision gyrraedd yr ail rownd

Mae'r Gleision wedi cael yr anffawd o gael eu rhoi yn yr un grŵp a phencampwyr y llynedd, Toulon.

Roedd penderfyniad Sam Warburton i aros yng Nghymru yn sicr yn hwb i'r clwb, ond ni fyddan nhw'n gallu cynnig cytundeb newydd iddo nes mae'r sefyllfa ynghylch y dyfodol y gystadleuaeth Ewropeaidd wedi ei ddatrys, am resymau ariannol.

Ond gydag enwau fel Leigh Halfpenny, Sam Warburton, Alex Cuthbert a Gethin Jenkins ymysg y rhengoedd, a all y Gleision roi sioc i ambell dîm?

Exeter fydd gwrthwynebwyr cyntaf y Gleision ddydd Sul.

Un o gewri Lloegr neu Ffrainc fydd y ffefrynnau ar gyfer y gystadleuaeth, er bod timau mawr Iwerddon wedi perfformio yn dda yn gyson yn y gystadleuaeth.

Os bydd Lloegr a Ffrainc yn cadw at eu haddewid i adael y gystadleuaeth y flwyddyn nesaf, enw'r tîm buddugol y tro hwn fydd yr olaf ar y gwpan.

A fydd hwnnw yn enw Cymreig? Dim ond amser a ddengys.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol