Cymru 0-0 Macedonia
- Cyhoeddwyd

Fe dynnodd 10 o chwaraewyr eu henwau yn ôl o'r garfan i gyd wrth i'r paratoadau fynd o ddrwg i waeth.
Aaron Ramsey oedd y capten gan fod Ashley Williams wedi ei anafu.
Ymysg y lleill na fydd yn chwarae mae Ben Davies, Sam Ricketts, Adam Matthews, Danny Gabbidon, Jonathan Williams, Joe Allen, Sam Vokes a Joe Ledley.
Gyda chymaint wedi eu hanafu, mae Chris Coleman wedi penderfynu galw bachgen 16 oed i'r garfan.
Mae'n anhebygol y bydd Harry Wilson - sydd ar lyfrau Lerpwl - yn dechrau'r gêm, ond efallai y caiff Lloyd Isgrove, chwaraewr 20 oed Southampton, gyfle i ddangos ei ddoniau.
Bydd Craig Bellamy yn dod a phrofiad i'r tîm, a hynny yn ei gêm gartref olaf i Gymru, wedi iddo gyhoeddi ei ymddeoliad o'r gêm ryngwladol yn gynharach yn yr wythnos, ac mae James Collins hefyd wedi ei gynnwys, wedi iddo ddychwelyd i'r garfan yr wythnos hon.
Mae gan Gymru chwe phwynt o wyth gêm yng ngrwp A, ac mae Coleman wedi cydnabod bod ei ddyfodol yn y fantol.
Fe gurodd Macedonia'r Cymry yn y gêm ar eu tir nhw, a byddan nhw'n gobeithio gallu cymryd mantais o wendid amlwg Cymru yng Nghaerdydd.
Timau
Cymru: Hennessey, Taylor, Gunter, Collins, John, Vaughan, King, Ramsey (capten), Robson-Kanu, Bellamy, Church
Eilyddion: Myhill, Fon Williams, Alfei, Wilson, Wiggins, Isgrove, Wilson, Richards, Tudur-Jones, Cotterill, Easter
Macedonia: Pacovski, Alioski, Noveski, Sikov, Ristovski, Demiri, Randjelovic, Stjepanovic, Pandev, Ibraimi, Ivanovski
Eilyddion: Naumovski, Georgievski, Grncarov, Mojsov, Ivanovski, Gligorov, Babunski, Tasevski, Blazevski, Jahovic, Trajkovski, Kostovski
Straeon perthnasol
- 9 Hydref 2013
- 8 Hydref 2013
- 7 Hydref 2013
- 3 Hydref 2013