Trafferthion goleuadau traffig
- Cyhoeddwyd
Mae llefarydd Cyngor Caerdydd wedi dweud bod difrod wedi ei wneud i gebl sy'n rheoli goleuadau traffig.
Yn ôl y llefarydd, mae contractwyr wedi torri drwy gebl ffibr sy'n golygu nad yw goleuadau ar yr A4232 ar Groes Cwrlwys a Lecwydd yn gweithio.
Roedd hyn am 2.30pm.
Mae hyn yn arwain at dagfeydd yn yr ardal wrth i bobl deithio i'r gêm bêl-droed ryngwladol rhwng Cymru a Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Wener.
Dywedodd y cyngor eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i ddatrys y sefyllfa.