Cymru dan-21 2-0 Lithwania dan-21

  • Cyhoeddwyd
Tom LawrenceFfynhonnell y llun, PA
Disgrifiad o’r llun,
Tom Lawrence sgoriodd ddwywaith o'r smotyn i Gymru

Mae tîm pêl-droed dan-21 Cymru wedi ennill eu gêm ragbrofol yng nghystadleuaeth Euro 2015 yn erbyn Lithwania ym Mangor ddydd Gwener.

Wedi tri chanlyniad hynod siomedig yn y gystadleuaeth mae'r fuddugoliaeth yn hwb i dîm Geraint Williams cyn y gemau pwysig yn erbyn y Ffindir a Lloegr.

Enillodd Cymru eu gêm gyntaf yn y grŵp yn erbyn Moldova cyn cael cweir gan y Ffindir a cholli yn erbyn San Marino.

Fe gafon nhw hefyd gêm ddi-sgor oddi cartref yn Moldova.

Tri phwynt pwysig

Ond brynhawn Mawrth yn Stadiwm Nantporth ym Mangor fe sgoriodd Tom Lawrence o glwb Manchester United ddwywaith i sicrhau tri phwynt pwysig.

Daeth y gyntaf wedi trosedd ar Billy Bodin yn y cwrt cosbi wedi 20 munud. Cic o'r smotyn oedd barn y dyfarnwr ac fe gamodd Lawrence ymlaen i roi Cymru ar y blaen.

Yna wedi 40 munud Lawrence ei hun gafodd ei faglu ac fe roddodd y dyfarnwr ail gic o'r smotyn i Gymru gyda Lawrence eto'n llwyddo.

Herio

Fe gafodd yr ymwelwyr ambell gyfle ond Cymru gafodd mwyafrif y meddiant a mwy o ergydion at y gôl.

Bydd y tîm yn aros ym Mangor lle byddan nhw'n herio San Marino brynhawn Mawrth.

Mae gobeithion Cymru o gyrraedd rowndiau terfynol Euro 2015 dan-21 yn brin oherwydd canlyniadau siomedig y misoedd diwethaf.

Ond gyda gemau yn erbyn y ddau dîm cryfaf yn y grŵp - y Ffindir a Lloegr i ddod, mae cyrraedd yn dal yn bosibl ar bapur.