Ceisio cadarnhau achos marwolaeth dyn 18 oed yn Ninbych
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl i archwiliad Post Mortem gael ei gynnal ar gorff dyn 18 oed a gafodd ei ddarganfod yn farw ger maes parcio yn Ninbych, Sir Ddinbych, fore dydd Gwener.
Cafodd y corff ei ddarganfod 11:40am ger maes parcio aml-lawr yn Factory Place.
Mae plismyn yn astudio lluniau camerâu cylch cyfyng o'r ardal ble roedd y corff er mwyn ceisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.
Dydy'r heddlu ddim yn gwybod amgylchiadau'r farwolaeth ar hyn o bryd, ond maent wedi cadarnhau oedran y dyn a'i fod yn byw yn lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol