Neges gymysg o ran hyder cwsmeriaid a masnachwyr
- Cyhoeddwyd

Er gwaetha' arwyddion cadarnhaol o ran gwerthiant mewn siopau, mae'n ymddangos nad yw hyder ymhlith cwsmeriaid ddim wedi cynyddu.
Mae arolwg yn awgrymu fod lefel yr hyder ymhlith siopwyr yng Nghymru wedi aros ar yr un lefel, 56%, er bod masnachwyr yn dweud fod y tywydd braf dros yr haf wedi bod yn hwb i fusnes.
Yn ôl Partneriaeth Fasnach Caerdydd, mae yna "arwyddion pendant o hyder ymhlith cwsmeriaid".
Cafodd dros 1,000 o bobl eu holi fel rhan o'r astudiaeth gan gwmni ymchwil Beaufort fis diwetha'.
Daeth i'r casgliad fod un ymhob naw (12%) o oedolion yn dweud eu bod yn teimlo'n fwy hyderus erbyn hyn am wario nag yr oeddynt chwe mis yn ôl.
Ond roedd dros ddwywaith hynny (30%) yn teimlo i'r gwrthwyneb, a'u bod bellach yn llai parod i brynu eitemau nad oedd yn hollol angenrheidiol.
Darlun amrywiol
Roedd yr hyder hwnnw ar ei isa' yng nghymoedd de Cymru (9%), o'i gymharu â'r cyfartaledd ar draws Cymru (12%).
Dywedodd Dr Jonathan Deacon, darlithydd busnes ym Mhrifysgol De Cymru, nad oedd hi'n annisgwyl gweld gwahaniaeth rhwng gwahanol ardaloedd.
Meddai: "Bydd rhai yn elwa'n gynt nag eraill. Dyw hi ddim yn syndod fod lleoedd fel Caerdydd ac Aberystwyth - ble mae 'na fyfyrwyr ac ymwelwyr - yn teimlo'n hyderus.
"Byddan nhw'n teimlo'r effaith yn gynt nag ardaloedd fel y cymoedd, sy'n ddibynnol ar ddiwydiannau cynradd ac eilradd. Mae'n cymryd amser i weithio drwy'r system."
'Ar i fyny'
Yn ôl Chris Mackenzie-Grieve, cadeirydd Siambr Fusnes Aberystwyth, sy'n cynrychioli tua 70 o siopau a busnesau'r dre', mae Aberystwyth wedi bod yn "eitha' cryf" yn wyneb y wasgfa ariannol.
Dywedodd fod y dre yn elwa o fod yn "hinsawdd micro", gyda phoblogaeth uchel o fyfyrwyr a nifer o swyddfeydd awdurdod lleol a Llywodraeth Cymru yn yr ardal.
Meddai: "Mae llawer o hynny'n seiliedig ar y sector cyhoeddus, sydd o hyd yn bryder gyda'r toriadau ar y gorwel, ond yn gyffredinol rwy'n cael yr argraff fod pethau ar i fyny.
"Dydw i ddim yn dweud ei fod unman yn agos i'r hyn yr oedd yn 2007, ond rwy'n credu fod hyder o fewn busnesau'n cynyddu."
Roedd ymchwil cwmni Beaufort wedi holi 1,1019 o oedolion mewn 69 o ardaloedd ar draws Cymru rhwng 13-24 Medi 2013.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Gorffennaf 2013