Ymchwiliad i ddamwain beic modur ger Casnewydd.

Mae Heddlu Gwent yn ymchwilio i ddamwain beic modur ar draffordd yr M4 yn ystod oriau man bore Sadwrn.

Cafodd y dyn 46 oed ei gludo i Ysbyty Brenhinol Gwent gydag anafiadau difrifol wedi iddo ddod oddi ar ei feic modur ger cyffordd 25, Caerllion.

Doedd yna'r un cerbyd arall yn rhan o'r ddamwain ond cafodd rhan o'r ffordd dros nos.

Fe ddylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad gysylltu gyda Heddlu Gwent ar 101.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.