Apêl wedi lladrad honedig yn Abertyswg, Caerffili
- Cyhoeddwyd
Mae Heddlu Gwent yn apelio am wybodaeth ynglŷn â lladrad honedig o gartref yn Abertyswg ger Rhymni, yng Nghaerffili.
Fe aeth tri dyn at berchennog yr eiddo ym Mhen-y-Cwm tua 12:50yh ddydd Gwener, yn cynnig gwasanaeth garddio.
Ond tra bod un dyn yn torri'r lawnt aeth y llall i'r tŷ a mynnu arian gan y perchennog.
Dywed yr heddlu fod un dyn yn ei 20au, a'r llall yn ei 30au.
Mae'r heddlu yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth am y digwyddiad, neu a welodd y dynion yn yr ardal ddydd Iau neu ddydd Gwener, i ffonio 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol