Canlyniadau Uwchgynghrair Pêl-droed Cymru

  • Cyhoeddwyd
Uwchgynghrair Cymru Corbett SportsFfynhonnell y llun, FAW

Fe chwaraewyd pedair gêm yn Uwchgynghrair Cymru Corbett Sports ddydd Sadwrn.

Afan Lido0-1 Prestatyn

Lee Hunt roddodd yr ymwelwyr ar y blaen gyda chic o'r smotyn yn yr 20fed munud. Cafodd chwaraewr Prestatyn, Michael Parker, gerdyn coch wedi 35 munud.

Y Drenewydd 2-3 Gap Cei Connah

Sean Evans sgoriodd y gôl agoriadol i'r Drenewydd wedi 18 munud, gyda Tom Goodwin yn sgorio'r ail. Ond yr ymwelwyr aeth â hi gyda dwy gôl gan Gary O'Toole, yr ail yn gic o'r smotyn, a gôl hwyr gan Paul Mooney. Roedd 'na gerdyn coch i Sean Evans, a cherdyn melyn i Callum Wright - ill dau yn chwaraewyr Y Drenewydd.

Rhyl 0-2 Y Seintiau Newydd

Greg Draper a Sam Finley sicrhaodd y fuddugoliaeth i'r ymwelwyr. Roedd 'na gerdyn melyn i Liam Benson yn yr ail hanner.

Caerfyrddin 4-4 Bangor

Roedd 'na gôl yr un i Jordan Follows a Corey Thomas, a rhwydodd Christian Doidge ddwywaith i'r tîm cartre'. Ond sicrhaodd goliau gan Jamie Petrie, Jamie McDaid a dwy gôl gan Les Davies bwynt i'r ymwelwyr hefyd. Cafodd dau o chwaraewyr Caerfyrddin gardiau melyn - Doidge a Liam McCreesh - ac roedd yna un hefyd i chwaraewr Bangor, Corey Jones.

Dydd Sul

Airbus UK 4-1 Aberystwyth

Er i Geoff Kellaway roi mantais gynnar i'r ymwelwyr, roedd 'na un gôl yr un i Chris Budrys, Ian Kearney, Steve Jones a Michael Roddy i sicrhau buddugoliaeth gyfforddus i'r tîm cartre' a'u gosod ar frig yr adran. Roedd 'na gerdyn melyn yr un i Wyn Thomas Krzystzof Nalborski o Aberystwyth, a chafodd ymosodwr Airbus, Kearney, gerdyn melyn yn eiliadau ola'r gêm.

Port Talbot 0-2 Y Bala

Kieran Smith a Mark Jones oedd y sgorwyr a hawliodd driphwynt i'r ymwelwyr yn Stadiwm GenQuip. Roedd yna gardiau melyn i Adie Harris, Lee John, Ryan Green a Gethin Jones o Bort Talbot, a Mark Connolly o'r Bala.