Dringwr wedi colli ei goes wedi damwain yn Eryri
- Cyhoeddwyd

Mae dringwr wedi colli ei goes ar ôl i'r garreg yr oedd yn sefyll arni ddod yn rhydd yn Eryri.
Roedd y dringwr ar lwybr ym Mhen yr Ole Wen yn y Carneddau, Dyffryn Ogwen, pan ddigwyddodd y ddamwain.
Yn ôl Tîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen, roedd y graig - oedd yr un maint â pherson - wedi dod yn rhydd o'r wyneb wrth i'r dyn sefyll arni.
Disgynnodd y garreg tua 500 troedfedd (150m) wedyn, cyn glanio ar ffordd yr A5 rhwng Bethesda a Chapel Curig.
Cafodd y dyn anafiadau difrifol a chafodd ei gludo mewn hofrennydd i'r ysbyty, ble cafodd lawdriniaeth i geisio achub ei goes.
Mae'r dyn sydd yn ei 40au - un o ddau ddringwr o dde Lloegr - yn cael triniaeth mewn uned arbenigol yn Ysbyty Stoke ar hyn o bryd.
Cafodd aelodau o Dîm Achub Mynydd Dyffryn Ogwen eu galw i'r safle tua 10:30yb ddydd Sadwrn.
Roedd aelodau o'r Awyrlu yn dringo yn yr ardal ar y pryd, ac fe ddaethon nhw hefyd i helpu.
"Roedd dau ddringwr newydd ddechrau mynd fyny'r graig," meddai Chris Lloyd, Achub Mynydd Dyffryn Ogwen.
"Roedd yr arweinydd yn sefyll ar graig a ddisgynodd i ffwrdd gan achosi anafiadau difrifol i'w goes.
"Aeth dau gerddwr oedd yn pasio i'w helpu - un yn aros gyda'r dyn a'r llall yn mynd i wneud yr alwad 999.
Daeth hofrennydd Sea King o Awyrlu'r Fali yno i godi'r dyn oddi ar y mynydd.