Rochdale 3-0 Casnewydd

  • Cyhoeddwyd
Danny Crow yng nghanol amddiffynwyr RochdaleFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Danny Crow yng nghanol amddiffynwyr Rochdale

Rochdale 3-0 Casnewydd

Fe sgoriodd Peter Vincenti y gôl agoriadol o 30 llath, gan arwain at fuddugoliaeth gyfforddus i Rochdale yn erbyn Casnewydd yn Spotland yn yr Ail Adran.

Rhwydodd Vincenti wedi pum munud a doedd gan Lenny Pidgeley ddim gobaith o atal y tîm cartre' rhag mynd ar y blaen.

Ychwanegodd Graham Cummins ail gôl saith munud cyn yr egwyl.

Llwyddodd golwr Rochdale, Josh Lillis, i gadw'r fantais wedi i Adam Chapman fethu gyda chic o'r smotyn i'r ymwelwyr.

Eiliadau ar ôl dod ar y cae fel eilydd, seliodd Bastien Hery y fuddugoliaeth i'r tîm cartre' wedi camgymeriad gan David Pipe.