Harlequins 26-33 Scarlets
- Cyhoeddwyd

Scott Williams yn sgorio cais i'r Scarlets, gyda Matt Hooper o'r Harlequins yn dynn ar ei sodlau
Harlequins 26-33 Scarlets
Dechreuodd y Scarlets eu hymgyrch yng Nghwpan Heineken gyda buddugoliaeth haeddianol yn erbyn yr Harlequins ar y Stoop.
Fe sgoriodd yr ymwelwyr dri chais, ac fe lwyddon nhw i amddiffyn yn galed.
Y rhanbarth o Gymru sgoriodd yr 13 pwynt cynta', o droed Rhys Priestland a gyda chais gan Rhodri Williams.
Torrodd Scott Williams drwy amddiffyn y tîm cartre' i gynyddu'r fantais cyn troi, cyn i Jordan Williams selio'r fuddugoliaeth gyda chais gofiadwy.
Croesodd Mike Brown i'r Quins gyda 12 munud yn weddill i gau'r bwlch i saith, ond daliodd yr ymwelwyr eu gafael ar y fantais er eu bod lawr i 14 dyn.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd11 Hydref 2013