Cwpan Heineken: Gweilch 9-19 Leinster

  • Cyhoeddwyd
Richard Hibbard yn cael ei atal gan amddiffyn LeinsterFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency
Disgrifiad o’r llun,
Richard Hibbard yn cael ei atal gan amddiffyn Leinster

Arweiniodd Sean O'Brien a Jimmy Gopperth Leinster i fuddugoliaeth yn erbyn y Gweilch yng Nghwpan Heineken nos Sadwrn.

O'Brien sgoriodd unig gais gêm digon di-fflach yn Stadiwm Liberty.

Daeth pwyntia'r Gweilch i gyd o droed y maswr Dan Biggar, a sgoriodd dair cic gosb.

Ond fe wadwyd pwynt bonws i'r tîm cartre' wedi i Gopperth sgorio cic gosb hwyr.