Marwolaeth dyn yn Ninbych fore Gwener 'ddim yn amheus'

  • Cyhoeddwyd

Cadarnhaodd Heddlu Gogledd Cymru nad ydyn nhw'n trin marwolaeth dyn ifanc yn Ninbych fel achos amheus.

Cafodd archwiliad post mortem ei gynnal ar y corff yn Lerpwl ddydd Sadwrn.

Cafodd corff y dyn 18 oed ei ddarganfod tua 11:40yb ddydd Gwener, ger maes parcio aml-lawr yn Factory Place.

Dyw enw'r dyn ddim wedi cael ei gyhoeddi eto ond mae'r heddlu wedi dweud ei fod yn byw yn lleol.

Bu plismyn yn astudio lluniau camerâu cylch cyfyng o'r ardal ble cafodd y corff ei ddarganfod er mwyn ceisio darganfod beth yn union ddigwyddodd.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol