Menter newydd i gyn weithwyr Remploy
- Cyhoeddwyd

Mae saith o gyn weithwyr cwmni Remploy wedi dod at ei gilydd i ffurfio menter gydweithredol ar safle hen ffatri Remploy yn Fforest-fach, Abertawe.
Bydd Accommodation Furniture Solutions Ltd (AFS Ltd) yn cyflogi'r saith i gychwyn, wedi iddynt fuddsoddi eu taliadau diswyddo yn y fenter.
Bydd y busnes newydd yn adeiladu a chynhyrchu dodrefn ar gyfer marchnadoedd amrywiol ac mae gan y perchnogion eisoes gynlluniau uchelgeisiol i ehangu'r cwmni a chynnig cyfleoedd i fwy o gyn weithwyr Remploy.
Mae'r cwmni'n dechrau ar eu gwaith ddydd Llun, yn cynhyrchu dodrefn cegin ac ystafelloedd ymolchi, lleoedd tân, ynghyd ag eitemau ar gyfer cartrefi gofal a'r gwasanaeth iechyd.
Cafodd y grŵp gefnogaeth ariannol gan nifer o gyrff gan gynnwys Llywodraeth Cymru, Canolfan Gydweithredol Cymru, yr Adran Gwaith a Phensiynau a banc Unitry Trust.
Maent hefyd wedi ffurfio perthynas â chwmni Richmond Kitchens, o Fanceinion, a byddan nhw'n gyfrifol am osod ceginau yn lleol i'r cwmni.
'Llwyddiannus a phroffidiol'
Dywedodd Kevin Edwards, rheolwr gyfarwyddwr y cwmni cydweithredol:
"Pan gaeodd ffatri Remploy yn 2012 roedden ni'n awyddus i sicrhau nad oedd swyddi o ansawdd uchel yn cael eu colli. Gyda'r fenter gydweithredol hon, rydym yn gobeithio datblygu busnes llwyddiannus a phroffidiol, gan hawlio ein lle fel un o'r prif wneuthurwyr dodrefn yn y DU.
"Wrth inni dyfu rydym yn bwriadu gweithredu fel cwmni cydweithredol sy'n cefnogi ein gweithlu o staff sy'n anabl neu dan anfantais, a chynnig hyfforddiant a chyfleoedd swyddi i'r gymuned ehangach yn Abertawe."
Bydd Remploy yn rhoi'r ffatri i'r busnes newydd ar brydles am gyfnod o chwe mis ac maent wedi cytuno i roi nifer o asedau iddynt am ddim.
Roedd Llywodraeth Cymru wedi gofyn i Ganolfan Gydweithredol Cymru gysylltu gyda chyn weithwyr Remploy er mwyn ceisio datblygu cyfleoedd busnes wedi i'r ffatri gau.
Meddai Jeff Cuthbert AC, Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi Cymru:
"Rydym wedi gweithio'n ddiflino i helpu pawb oedd â'u bywoliaeth yn y fantol a chefnogi gweithwyr Remploy i ddod o hyd i waith a chyfleoedd newydd.
"Dyna pam fod y fenter gydweithredol hon yn Abertawe yn newyddion cystal. Mae'n ddechrau newydd i'r gweithwyr y tu ôl i'r fenter ac rwyf wrth fy modd fod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu gwireddu hyn. Rwy'n dymuno'r gorau iddynt yn y dyfodol ac rwy'n gobeithio eu gweld yn mynd o nerth i nerth."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Medi 2013
- Cyhoeddwyd6 Mai 2013
- Cyhoeddwyd29 Ebrill 2013
- Cyhoeddwyd25 Ebrill 2013