Ymgyrch newydd i geisio annog mwy o roddwyr mêr esgyrn

  • Cyhoeddwyd
Celloedd bonynFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,
Mae dros 20,000 o gleifion ar draws y byd yn disgwyl am drawsblaniad mêr esgyrn

Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru'n lansio eu hymgyrch gynta' erioed i geisio annog mwy o roddwyr mêr esgyrn.

Maen nhw'n arbennig o awyddus i gael mwy o bobl ifanc, rhwng 18 a 30 oed, ar y gofrestr rhoddwyr

Ond gall pobl hyd at 46 oed ymuno â'r system ac aros ar y gofrestr nes eu bod yn 60 oed.

Fel rhan o'r ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, mae'r gwasanaeth wedi ffurfio côr o gleifion o Gymru sydd wedi cael trawsblaniadau mêr esgyrn, ynghyd â staff y gofrestr a rhoddwyr sydd eisoes wedi helpu cleifion.

Bydd y côr yn perfformio am y tro cynta' yn ystod lansiad yr ymgyrch yng Nghanolfan y Mileniwm ddydd Llun.

Mae yna nifer o afiechydon sy'n atal mêr esgyrn rhag gweithio'n iawn a'r unig ateb i nifer o gleifion yw cael trawsblaniad gan roddwr sydd â mêr esgyrn iach.

Mewn 70% o achosion, dyw mêr esgyrn y claf ddim yn cyfateb i un eu teulu a'u hunig obaith yw dod o hyd i roddwr addas oddi ar y gofrestr.

Ar draws y byd mae yna dros 20,000 o bobl yn chwilio am roddwyr sydd â mêr esgyrn cyfatebol.

Yng Nghymru, mae dros 75,000 eisoes wedi ymuno gyda'r bas data ar gyfer rhoddwyr posib ond mae Gwasanaeth Gwaed Cymru'n dweud bod angen mwy.