Cwpan Heineken: Caerwysg 44-29 Gleision Caerdydd

  • Cyhoeddwyd
Asgellwr Caerwysg Matt Jess yn mynnu ei ffordd heibio Leigh Halfpenny o'r GleisionFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,
Sgoriodd Caerwysg chwe chais yn erbyn Gleision Caerdydd yn Sandy Park ddydd Sul

Er iddyn nhw golli eu gêm gynta' yng Nghwpan Heineken, sicrhaodd Gleision Caerdydd bwynt bonws yn Sandy Park ddydd Sul.

Fe sgoriodd Caerwysg chwe chais i sicrhau'r fuddugoliaeth, yn ogystal â phwynt bonws.

Cafodd y drwg ei wneud yn yr hanner cynta', gyda'r tîm cartre' ar y blaen o 36-3 cyn yr egwyl.

Ond tarodd y Gleision yn ôl gan hawlio eu pwynt bonws hwythau a sgorio pedwerydd cais.

Croesodd Lloyd Williams, Robin Copeland, Alex Cuthbert a Harry Robinson i'r ymwelwyr.

Bydd y Gleision yn croesawu'r pencampwyr presennol Toulon yn eu gêm nesa' ddydd Sadwrn.