Barnet 1-1 Wrecsam
- Cyhoeddwyd
Barnet 1-1 Wrecsam
Doedd yna fawr o hwyliau ar chwaraewyr Barnet na Wrecsam wrth i dri chwaraewr gael eu hanfon o'r cae yn ystod y gêm ddydd Sul.
Sicrhaodd Anthony Acheampong fantais gynnar i'r tîm cartre', gan benio croesiad gan Jack Saville.
Ond ym munudau ola'r gêm, tarodd rheolwr-chwaraewr Barnet Edgar Davids yn erbyn un o ddynion Wrecsam, Stephen Wright, mewn digwyddiad arweiniodd at gardiau coch i'r ddau chwaraewr.
Hawliodd capten Wrecsam Dean Keates bwynt i'r ymwelwyr wrth unioni'r sgôr gyda chic rydd.
Ond yna collodd y Dreigiau Johny Hunt, a gafodd ei hel o'r cae am dacl flêr ar Curtis Weston.