Donaldson yn gydradd chweched ym Meistri Portiwgal
- Cyhoeddwyd
Gorffen yn y chweched safle wnaeth y golffiwr Jamie Donaldson ar ddiwedd pencampwriaeth Meistri Portiwgal.
Roedd y Cymro o Bontypridd dair ergyd y tu ôl i'r enillydd, David Lynn, o Loegr.
Lynn gafodd y rownd orau ddydd Sul, wyth ergyd yn well na'r safon.
Doedd neb yn medru cyrraedd ei gyfanswm o 266 ergyd, 18 ergyd yn well na'r safon dros y pedwar diwrnod.
Gorffennodd Donaldson gyda rownd o 70 ar gwrs yr Oceanico Victoria ar yr Algarve.
Straeon perthnasol
- 12 Hydref 2013