Llanciau'n ymosod ar ddiffoddwyr

  • Cyhoeddwyd

Mae llanciau wedi ymosod ar ddiffoddwyr drwy daflu cerrig atynt wrth iddyn nhw frwydro tân ger Caerffili.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru bod neb wedi cael eu hanafu yn yr ymosodiad wrth i'r criw geisio diffodd fflamau mewn sgip ym mharc Abertridwr am tua 9:15pm nos Sadwrn.

Huw Jakeway yw prif swyddog y gwasanaeth, a dywedodd bod y diffoddwyr "yma i helpu ein cymunedau" gan ddisgrifio'r ymosodiad fel "cwbl annerbyniol".

Rhybuddiodd: "Mae pob injan dân â chamerâu cylch cyfyng arnynt, ac mae pob un o'n diffoddwyr yn broffesiynol iawn mewn amgylchiadau anodd dros ben."