Arddangosfa yn Llangyndeyrn yn coffáu brwydr lwyddiannus
- Cyhoeddwyd

O ddydd Sul ymlaen mae trigolion ardal Llangyndeyrn yn dathlu 50 mlynedd ers achub y cwm rhag cael ei foddi

Roedd y straeon cyntaf am y bygythiad yn 1960
Y bwriad oedd codi argae ar dir amaethyddol yng Nghwm Gwendraeth Fach
Penderfynodd trigolion lleol sefydlu pwyllgor amddiffyn er mwyn herio Corfforaeth Dŵr Abertawe.
Roedd y gymuned leol yn benderfynol o atal swyddogion Abertawe rhag cael mynediad i dir amaethyddol er mwyn cynnal aesiad
Pobl leol fel y Cynghorydd William Thomas oedd yn arwain y frwydr i achub y tir rhag cael ei foddi
Roedd ffermwyr lleol yn defnydio cadwyni ac offer amaethyddol i atal mynediad i'r tir
Roedd clochydd yr eglwys leol, Jack Smith, yn canu'r clychau i rybuddio ffermwyr bod swyddogion Corfforaeth Dŵr Abertawe ar eu ffordd.
Yr wythnos o ddathlu yn dod i ben yn yr un eglwys gyda recordiad o'r rhaglen Dechrau Canu Dechrau Canmol a'r pentrefwyr yn cynnal Cwrdd Diolchgarwch.
Straeon perthnasol
- 20 Hydref 2013