50 mlynedd ers atal boddi cwm yn Llangyndeyrn
- Cyhoeddwyd

Mae aelod teulu un o'r arweinwyr ymgyrch yn erbyn corfforaeth ddŵr wedi dweud nad ydi'r Cymry yn gwneud digon i ddathlu digwyddiadau o'r fath.
Ddydd Sul mae trigolion Llangyndeyrn, pentref bum milltir i'r de o Gaerfyrddin, yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau er mwyn nodi'r fuddugoliaeth yn erbyn cynlluniau Corfforaeth Ddŵr Abertawe i foddi Cwm Gwendraeth Fach yn y chwedegau.
Un o'r rhai sy'n trefnu yw David Thomas, sy'n ŵyr i'r Cynghorydd William Thomas, Cadeirydd y Pwyllgor Amddiffyn.
"Ry'n ni'n cynnal y gweithgareddau i ddathlu ond hefyd i ddiolch i'r rhai oedd yn rhan o'r frwydr" meddai Mr Thomas, cydgadeirydd y pwyllgor dathlu.
"Hebddyn nhw fydden ni ddim yma heddiw.
'Methu'
"Roedd y pumdegau a'r chwedegau'n amser lle oedd yna lawer o frwydro ond methu wnaeth y rhan fwyaf o'r rheiny heblaw am Gwm Senni ddaeth ar ôl cyfnod Llangyndeyrn."
"Felly mae'n bwysig dathlu beth ddigwyddodd yn Llangyndeyrn.
"Mae yna ddigon o ymgyrchoedd eraill wedi methu.
"Mae'n bwysig ein bod ni'n dathlu ... dyw pobl Cymru ddim yn dda am ddathlu."
Roedd yr hyn a ddigwyddodd wedi atgyfnerthu'r gymuned, meddai.
"Ewch yn ôl i'r pumdegau a'r chwedegau ac roedd yna ddigon o benfrefi a chymunedau yng Nghymru yr un mor glos â Llangyndeyrn ond dwi'n credu fod yr hyn ddigwyddodd yma yn golygu bod Llangyndeyrn wedi sefyll yr un mor glos.
"Yn y pentrefi eraill doedd yna ddim cymaint i ddala nhw at ei gilydd."
'Trefniadau manwl'
Un o'r rhai oedd yn aelod o'r pwyllgor amddiffyn yw Mr Meurig Voyle sydd bellach yn 89 oed.
Mae'n teithio i Langyndeyrn o Ddinbych yn Nyffryn Clwyd ddydd Sul er mwyn bod yn rhan o wythnos y dathlu.
"Doedd dim byd yn debyg i'r trefniadau yn Llangyndeyrn ar y pryd - ac roeddwn i yn gyn aelod o'r fyddin.
"Ro'dd yna drefniadau manwl. Byddai galwad ffôn yn dod i'r pentre' pryd oedd sôn bod gwŷr Abertawe yn dod.
"Yna byddai negesydd yn dweud wrth saith o bobl a byddai'r saith yn dweud wrth saith arall a byddai'r neges yn cael ei lledaenu.
"Byddai cloch yr eglwys yn cael ei chanu a byddai'r ffermwyr yn dod ynghyd," meddai Mr Voyle.
"Ro'dd hyd yn oed bachan ar fotobeic ar ga'l, rhag ofn bod yna wendid mewn ardal, hynny yw bod neges ddim yn cyrredd.
"Ro'dd peiriannau fferm wedi eu gosod tu ôl i bob clwyd ... ro'dd hyd yn oed concrid wedi ei roi mewn ambell i fan."
'Brwydr leol'
Dywedodd mai'r gwahaniaeth mawr rhyngddyn nhw ag ymgyrch Tryweryn oedd bod y frwydr yn un gyfangwbl leol.
"Wnethon ni ddim dod â'r politisians i mewn o gwbwl. Brwydr Llangyndeyrn oedd hon."
Dywedodd fod yr ardal yn lwcus i gael dau arweinydd fel Wiliam Thomas a'r Parchedig W M Rees.
"Roedd y ddau yn gymeriadau gwahanol iawn.
"Dyn y bobol oedd William Thomas ac yn ddyn penderfynol tra bod W M Rees yn hynod drefnus gyda'r gallu i drin y wasg ac i drin swyddogion."
Ysgrifennydd y pwyllgor amddiffyn oedd y Parch W M Rees gyfansoddodd y pennill canlynol:
Fe geiswyd llifo'r gadwyn dew â llif/ A gwthio yr allweddi ymhob clo/ Ataliwyd hwynt yn llwyr er maint eu rhif/ Gan ysbryd dewr di-ildio plant y fro.
Cyngherddau
Mae'r dathliadau'n cynnwys cyngherddau a sioe blant.
Drwy gydol yr wythnos mae arddangosfa mewn pafiliwn sy' wedi ei godi ar gyfer y dathlu.
Mae'r arddangosfa'n cynnwys posteri, lluniau o'r cyfnod yn ogystal ag offer fel cadwyni a ddefnyddiwyd i sicrhau nad oedd Corfforaeth Ddŵr Abertawe yn cael mynediad i'r tir.
Straeon perthnasol
- 20 Hydref 2013
- 21 Hydref 2013
- 9 Chwefror 2013
- 11 Mawrth 2010