Gwagio tai wedi ffrwydrad a thân
- Cyhoeddwyd

Mae nifer o drigolion wedi gorfod gadael eu cartrefi yn Sir Benfro oherwydd tân.
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru eu bod wedi cael eu galw i bentref Hakin ger Aberdaugleddau ychydig wedi 8:00am fore Llun.
Mae dwy injan dân o Aberdaugleddau, un o Ddoc Penfro ac un arall o Hwlffordd wedi brysio i'r safle.
Mae'r heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans hefyd wedi cael eu galw i'r digwyddiad.
Dywedodd un o'r cymdogion ei bod wedi clywed ffrwydrad wrth i ffenestri'r tŷ gael eu chwythu allan.
Roedd y fenyw yn mynd â'i chi am dro yn y stryd pan ddigwyddodd y ffrwydrad ac fe welodd y fflamau.
Dywedodd bod y fenyw oedd yn byw yn y tŷ wedi llwyddo i gerdded allan o'r adeilad, a'i bod wedi cael ei chludo i'r ysbyty am brofion.
Cyhoeddodd y gwasanaeth tân eu bod wedi llwyddo i ddiffodd y tân erbyn ganol dydd.
Oglau nwy
Yn ôl gohebydd BBC Cymru ar y safle, roedd nifer o drigolion wedi son am oglau nwy ar y safle.
Dywedodd cwmni gwasanaethau cyhoeddus Cymru a'r Gorllewin mewn datganiad:
"Fe gawsom wybod am ddigwyddiad mewn eiddo yn ardal Hakin o Aberdaugleddau gan y gwasanaethau brys, ac fe wnaethon ni yrru tîm yno. Mae ein peirianwyr yn gweithio i ynysu'r cyflenwad nwy er mwyn diogelu'r safle.
"Nid yw Wales & West Utilities wedi gwneud gwaith cynnal a chadw nac wedi ein galw i ddigwyddiad brys yn yr ardal ers 2010.
"Mae ymchwiliad i achos y digwyddiad yma yn mynd ymlaen ar hyn o bryd."