Trasiedi arall i deulu Casey Breese
- Cyhoeddwyd

Mae trasiedi arall wedi taro rhieni'r bachgen ysgol Casey Breese fu farw wedi i byst pêl-droed ddisgyn arno ddwy flynedd yn ôl.
Bu farw chwaer Casey mewn gwrthdrawiad car dros y penwythnos.
Roedd Casey wedi marw yng Ngorffennaf 2011 pan ddisgynnodd y pyst arno wrth iddo chwarae gyda ffrindiau ger ei gartref yng Nghaersws.
Mae Shan a Nick Breese yn galaru wedi i'w merch 18 oed Kelly farw wedi i'w char daro yn erbyn coeden yn yr ardal nos Sul.
Cymorth
Mae swyddogion arbenigol yr heddlu yn cynnig cymorth a chefnogaeth i'r teulu.
Mewn datganiad dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys: "Mae'r heddlu yn ymchwilio i wrthdrawiad un cerbyd a ddigwyddodd tua 9:30pm nos Sul, Hydref 13.
"Bu car Vauxhall Corsa mewn gwrthdrawiad â choeden ar y B4568 rhwng Llanwnog ac Aberhafesp.
"Er i'r gwasanaethau brys gydweithio i geisio achub y gyrrwr, bu farw yn y fan a'r lle.
"Nid yw'r corff wedi cael ei adnabod yn ffurfiol ond er mwyn osgoi dyfalu mae'r teulu wedi cytuno i'w henwi, Kelly Marie Breese, 18 oed o Gaersws.
"Rydym yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â gwybodaeth amdano i ffonio uned blismona ffyrdd yr heddlu ar 101."
Mae'r teulu wedi gofyn am breifatrwydd llwyr yn ystod y cyfnod ofnadwy hwn.
Straeon perthnasol
- 23 Hydref 2012
- 31 Gorffennaf 2011