'Dim ateb sut y dechreuodd y tân,' medd curadur
- Cyhoeddwyd

Ychydig wedi 8yb fore Mawrth Hydref 14, 1913, rhwygodd ffrwydrad enfawr drwy bwll glo Universal yn Senghennydd.
Bu farw 439 o weithwyr ac un gweithiwr achub yn nhrychineb glofaol gwaethaf Prydain, gan adael craith ar genhedlaeth gyfan mewn un gymuned fach yn ne Cymru.
Bydd cofeb newydd yn cael ei dadorchuddio ddydd Llun, er cof am bob un sydd wedi marw mewn damweiniau ym mhyllau glo Cymru.
'Ffrwydrad enfawr'
Roedd tua 950 o ddynion o dan y ddaear yn Senghennydd ar y bore tyngedfennol, newydd ddechrau ar y shifft gynnar yn y pwll enfawr oedd yn gweithio drwy'r dydd a nos.
Cafodd 439 o'r rheiny, ar ochr orllewinol y pwll, eu lladd gan y ffrwydrad enfawr a'r tanau ffyrnig a ddilynodd.
Hyd heddiw nid oes ateb pendant am sut y dechreuodd y tân, yn ôl Ceri Thompson, curadur Amgueddfa Lofaol Cymru.
"Dydyn ni ddim yn gwybod yn union beth ddigwyddodd, sef un o'r pethau mwyaf trist am yr holl beth," meddai.
"Digwyddodd ffrwydrad o ryw fath, ond does neb erioed wedi cadarnhau yn union ble y digwyddodd. Gallai wedi bod yn ffrwydrad llwch glo, neu'n danchwa arweiniodd at godi llwch glo, gan wneud y ffrwydrad yn waeth."
"Pasiodd drwy hanner y pwll ac roedd coelcerth yn rhedeg drwy'r lle, ac yn ôl y son doedd dim digon o ddŵr i geisio atal y fflamau.
"Felly pan ddechreuodd y pren yn y twneli losgi, roedden nhw'n disgyn, a chwympodd darnau enfawr o'r pwll.
"Erbyn diwedd y dydd, roedd 439 wedi eu lladd."
Trasiedi am yr ail dro
Roedd damwain wedi digwydd ar yr un safle yn 1901 gan ladd 81 o bobl, ac roedd rheolau mewn grym i geisio atal digwyddiad tebyg rhag digwydd eto.
Roedd rheolwyr i fod i fonitro'r baromedr yn gyson, lleihau llwch yn y pwll a sicrhau bod modd rheoli'r llif awyr yn y twneli.
Cafodd y rheolau eu llunio i ddiogelu glowyr, ond roedd y galw am lo mor fawr na chafodd y rheolau eu dilyn.
Yn ôl Mr Thompson: "Doedd e ddim yn lle diogel i fod. Roedd yn bwll llychlyd iawn, ac roedd y rheolwyr wedi gwneud hynny'n waeth.
"Roedden nhw i fod i wlychu'r llwybrau fel na fyddai llwch yn codi, ond roedd yn bwll llawn nwy, llawn llwch a phoeth iawn, ac roedden nhw'n gwybod y gallai rhywbeth ddigwydd."
Pum ceiniog a hanner
Wedi'r ymchwiliad i'r trychineb, cafodd rheolwr y pwll, Edward Shaw ddirwy o £24, a'r perchnogion £10 gyda £5.25 o gostau am fethiannau arweiniodd at y ffrwydrad.
Roedd dirwy'r rheolwr yn cyfateb i gost o bum ceiniog a hanner am bob un fu farw.
Mae Ceri yn dweud ei fod yn anodd derbyn bod cyn lleied o bris wedi ei roi ar y golled.
"Mae'n anodd credu heddiw fod neb wedi talu am 439 o fywydau," meddai.
"Byddai wedi bod yn haws mewn ffordd os fyddai deddfwriaeth newydd wedi dod, ond roedd y rheolau mewn grym yn barod, a chawson nhw ddim eu dilyn.
"Dylai fod wedi cael mwy o effaith ar y pryd, a dydw i ddim yn gwybod pam nad oedd hynny wedi digwydd."
"Mae'n hynod o drist, a dylai e erioed fod wedi digwydd.
Craith ar gymuned
Cafodd y trychineb effaith enfawr ar gymuned fach Senghennydd.
Yr amcangyfrif yw bod 1,000 o bobl wedi colli perthynas, a prin fod un teulu yn yr ardal heb gael ei effeithio mewn un ffordd neu'i gilydd.
Cafodd cenhedlaeth gyfan ei tharo, gan adael dros 200 o ferched heb ŵyr, a dros 500 o blant heb dad.
Dyma un rheswm y mae Ceri yn credu ei fod yn hollbwysig coffau'r digwyddiad.
"Mae'n bwysig cofio am ran enfawr o hanes Cymru.
"Mae'n bosib dadlau mai'r diwydiant glo yw'r peth pwysicaf i ddigwydd i Gymru mewn 1000 o flynyddoedd.
"Dyna'r rheswm y mae pawb yn yr hen Gwent, Morgannwg a Chaerfyrddin yn byw yma.
"Mae hefyd yn gyfrifol am yr Amgueddfa Genedlaethol ei hun. Roedd yr arian a'r bobl oedd yn dod i'r diwydiant yn creu teimlad cenedlaethol yng Nghymru - gan arwain at amgueddfa genedlaethol, llyfrgell genedlaethol, ac yn fwy diweddar rydym ni wedi cael Cynulliad cenedlaethol.
"Galla i ddim dychmygu'r un o'r rhain yn bodoli heb y diwydiant glo."
Parhaodd gwaith yn y pwll hyd at 1928, cyn dymchwel yr adeiladau a'r twneli yn 1963 a 1979.
Wrth sôn am ddigwyddiadau dydd Llun, dywedodd: "Bydd yn emosiynol ac, wrth gwrs, mae'n coffáu pob trychineb glofaol a phob un sydd wedi marw yn y diwydiant.
"Does unman fwy addas ar ei gyfer na Senghennydd, dwi'n meddwl y gall pawb gytuno ar hynny."
Straeon perthnasol
- 11 Hydref 2013
- 10 Hydref 2013
- 11 Hydref 2013
- 8 Hydref 2013