Bwlio ar y we: 'angen deddf'
- Cyhoeddwyd

Mae comisiynydd plant Cymru wedi galw am gyflwyno deddf benodol er mwyn mynd i'r afael â bwlio ar y we.
Dywedodd Keith Towler wrth raglen Taro 9 fod angen i'r awdurdodau ystyried rôl ysgolion, rhieni a gofalwyr wrth alluogi plant i wneud eu hunain yn ddiogel.
Daw hyn wrth i arolwg ddangos bod 47.2% o ddisgyblion Cymru yn dweud iddyn nhw gael eu bwlio, gyda 37% o'r rheiny yn dweud iddyn nhw gael eu bwlio ar y we.
Yn ddiweddar, bu farw merch 14 blwydd oed o Sir Gaerlŷr ac, yn ôl ei rhieni, fe laddodd Hannah Smith ei hun ar ôl cael ei bwlio ar wefan ask.fm.
'Difetha bywydau'
Clywodd Taro 9 gan ferch oedd wedi cael ei bwlio wrth ddefnyddio yr un wefan.
Dywedodd Olivia Edwards, 15 oed o Dreorci yn y Rhondda, nad oedd hi'n gwybod pwy oedd tu ôl i sylwadau cas ar y wefan oedd wedi eu hanelu ati.
"Roedden nhw'n dweud y dylen i ladd 'yn hunan a bod fi'n anorecsic a bod fi ddim yn bert a bod fi'n edrych fel mwnci a llygoden fawr a popeth fel na," meddai.
"O'dd e jyst yn neud i'n hunan-hyder fi fynd reit lawr ... o'n i'n eu credu nhw dipyn bach a o'dd hwnna ddim yn dda o gwbl."
Wedi dau fis o brofiadau anodd penderfynodd Olivia mai'r peth callaf i'w wneud oedd dileu ei chyfrif ar y wefan.
"... os ydych yn gwneud hynny allwch chi ddim cael bwlis yn dweud pethe wrthoch chi sydd ddim yn wir, yn ddienw.
"Rwy'n credu bod ask.fm yn difetha bywyde pobl a bod yn onest."
'Anorecsig'
Un arall gafodd broblemau oedd Lowri Mitchinson sy'n 16 oed.
Roedd hi wedi gorfod dioddef rhai di-enw'n dweud pethau cas.
"Roedd pobol yn arfer galw fi'n anorecsic a stwff fel na," meddai.
"O'n i ddim yn anorecsic ond gall hynny fod wedi brifo fi cymaint â falle achosi i fi roi pwyse ymla'n neu colli pwyse."
Ar hyn o bryd mae hi'n rhan o fenter ei hysgol, Ysgol y Cymer yn y Rhondda, sy'n ceisio helpu disgyblion sy'n dioddef o fwlio.
Mae'r cynllun Cymer Ofal yn rhoi cyfle i ddisgyblion hŷn roi cyngor i a chwnsela disgyblion iau.
"Un o'r pethe pwysica' i ddioddefwyr 'i wneud yw rhannu'r broblem," meddai Lowri.
"S'dim angen trafod â rhieni os o's cywilydd ... siarada â rhywun ti'n ymddiried ynddo fel cyfnither neu ... dy ffrindie, rhywun sy'n becso amdanat ti ..."
Cyfrifoldeb
Dywedodd y comisiynydd fod cyfrifoldeb ar wefannau fel ask.fm i sicrhau eu bod yn ystyried lles pobl ifanc sy'n defnyddio'r wefan.
"Rwy'n meddwl bod yna ddiffyg cyfrifoldeb, rhywbeth sy'n fy synnu.
"Dydw i ddim yn credu gall unrhyw un sy'n ymwneud â phlant a phobl ifanc mewn unrhyw ffordd o gwbl wadu'r cyfrifoldeb cymdeithasol o'r hyn maen nhw'n ei wneud."
Pan ofynwyd iddo a oedd yn credu bod angen deddfau er mwyn erlyn pobl sy'n bwlio dros y we, dywedodd: "..., rwy'n meddwl y dylen ni, a'r hyn rydym yn ceisio delio â fe yw byd sy'n newid drwy'r amser.
"Rydym yn ceisio dal i fyny gyda rhywbeth sydd go iawn allan yn fan'na ... heb fawr o reoleiddio na rheoli ...
"Rwy'n credu bod angen i ni feddwl am ddeddfu, am ganllawiau, am rôl ysgolion, rhieni a gofalwyr gan alluogi plant a phobl ifanc i rymuso eu hunain fel eu bod yn gallu cymryd cyfrifoldeb am eu diogelwch eu hunain."
Ar hyn o bryd mae pobl yn cael eu herlyn o dan gyfreithiau fel y Ddeddf Diogelwch rhag Aflonyddu a'r Ddeddf Cyfiawnder Troseddol a'r Drefn Gyhoeddus.
'Amddiffyn'
Wrth ymateb i'r pwyntiau gafodd eu codi yn y rhaglen, dywedodd ask.fm: "Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i amddiffyn ein defnyddwyr.
"Rydym yn gweithio gyda'r arbenigwr diogelwch ar y we, Annie Mullins OBE, i adolygu a diweddaru ein polisïau diogelwch a phreifatrwydd.
"Bydd hyn yn sicrhau bod ein systemau ar gyfer adrodd achosion o gam-drin a deunydd anaddas ymysg y mwyaf effeithiol yn y diwydiant."
O bron 1,000 wnaeth ymateb i arolwg diweddar y Cynulliad ar gyfer Plant a Phobl Ifanc yng Nghymru: y Ddraig Ffynci, roedd 47.2% yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio a 37% o'r rhain yn dweud eu bod wedi cael eu bwlio ar y we.
Roedd yr arolwg hefyd yn awgrymu ei bod yn fwy o broblem i ferched (43.8%) na bechgyn (27.4%).
Straeon perthnasol
- 23 Tachwedd 2011
- 24 Chwefror 2007