Buddsoddiad o £1.4m i Wynedd

  • Cyhoeddwyd
Llys yr Esgob, Bangor
Disgrifiad o’r llun,
Llys yr Esgob fydd lleoliad yr amgueddfa ac oriel newydd

Mae Bangor wedi llwyddo i sicrhau buddsoddiad o £1.4 miliwn ar gyfer sefydlu oriel gelf ac amgueddfa ym Mhlas yr Esgob yn y ddinas.

Daw'r arian o Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac mae'n cael ei ddyfarnu yn dilyn cais ar y cyd gan Brifysgol Bangor a Chyngor Gwynedd.

Bydd Plas yr Esgob yn cael ei adnewyddu gyda'r bwriad o drosglwyddo casgliadau sy'n cael eu cadw yn y canondy ar hyn o bryd i Lys yr Esgob er mwyn rhoi cyfle i'r cyhoedd gael eu gweld.

Y plas fydd canolbwynt y weledigaeth sydd ynghlwm wrth y buddsoddiad, fydd yn ei weld fel cnewyllyn 'cornel ddiwylliant' ym Mangor.

'Arwyddocaol'

Disgrifiad o’r llun,
Cafodd Llys yr Esgob ei adeiladu yn yr 16eg ganrif

Llys yr Esgob Bangor yw'r ail adeilad hynaf yn y ddinas, wedi'r Gadeirlan. Mae'r adeilad rhestredig Gradd II yn dyddio yn ôl i'r 16eg Ganrif.

Hwn yw'r unig adeilad o'i fath yng Nghymru sy'n parhau ers y cyfnod canoloesol a bron iawn yn parhau yn ei gyfanrwydd

Mae'r gwaith fydd yn cael ei drosglwyddo yno yn cael ei ddisgrifio gan y Loteri fel "un o'r casgliadau mwyaf arwyddocaol ar hanes Cymru y tu allan i Sain Ffagan".

Mae'r casgliad yn cynnwys gwaith celf, cerameg, offerynnau traddodiadol Cymraeg, offerynnau ethnograffig ynghyd ag eitemau hanes natur.

Wrth gyhoeddi'r newyddion, dywedodd Jennifer Stewart, pennaeth Gronfa Dreftadaeth y Loteri, "Mae rhai elfennau o hanes hirfaith Bangor i'w gweld yn amlwg i'r rheini sy'n ymweld ac yn byw yn y ddinas ond mae elfennau eraill, fel y casgliadau gwych sydd ar hyn o bryd yn cael eu cadw gan Brifysgol Bangor ynghyd ag adeilad Llys yr Esgob ei hun, sydd heb eu gweld ers amser maith.

"Mae'n wych bod arian gan Cronfa Dreftadaeth y Loteri am gynorthwyo trawsffurfiad yr adeilad a'r ardal gyfagos fel y bydd hanes a threftadaeth hyn yn gallu cael ei fwynhau gan bawb."

Buddsoddiad i bum safle arall

Yn ogystal â datblygu amgueddfa ac oriel newydd ym Mhlas yr Esgob bydd pum safle arall ar draws Gwynedd yn derbyn buddsoddiad er mwyn eu galluogi i arddangos "casgliadau ag arwyddocâd cenedlaethol a lleol".

Er mwyn gwireddu hyn bydd aelodau o staff newydd yn cael eu penodi sydd yn newyddion da i'r canolfannau yn y pump lle sydd wedi ei dewis sef Llanberis, Llanbedrog, Dolgellau, Blaenau Ffestiniog a Thywyn.

Dywedodd Arweinydd Cyngor Gwynedd Dyfed Edwards: "Mae hyn yn newyddion gwych - bydd arian gan y Loteri yn chwarae rhan allweddol o'r pecyn ariannu a fydd yn ein caniatáu ni i weithredu'r newidiadau holl bwysig hyn i Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd.

"Rydym wedi cyrraedd carreg filltir bwysig ar gyfer prosiect partneriaeth uchelgeisiol a fydd yn helpu ni i ddiogelu a gwella'r ffordd y mae diwylliant a threftadaeth yn cael ei ofalu amdano, ei rannu a'i gyflwyno i gymunedau ar draws Gwynedd."

Yn ogystal â'r swyddi newydd bydd ymrwymiad rhagor o wirfoddolwyr yn hollbwysig ar gyfer llwyddiant y fenter, yn ôl Cronfa Dreftadaeth y Loteri.

Dywedodd Jeremy Yates, ar ran Ffrindiau Amgueddfa ac Oriel Gelf Gwynedd, "Mae'r ffrindiau yn croesawu'r newyddion hyn yn galonnog ac yn rhagweld cydweithrediad agos gyda'r amgueddfa a'r oriel yn ei safle newydd yn Llys yr Esgob ym Mangor.

"Rydym yn gobeithio bod wrth galon y rhwydwaith gwirfoddoli sy'n datblygu sydd yn hollbwysig i lwyddiant y fenter ac rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu gydag arbenigedd lleol a phrofiad ein haelodau."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol